Hwb i entrepreneuriaid ifanc Castell-nedd Port Talbot
27 Ionawr 2012
Mae darpar entrepreneuriaid yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Mae myfyrwyr Blwyddyn 11 o ledled y fwrdeistref sirol wedi ymuno  Chanolfan Busnesau Pobl Ifanc Sandfields ym Mhort Talbot i archwilio cyfleoedd hunangyflogaeth.
Mae tîm y Ganolfan Busnesau Pobl Ifanc yn gweithio mewn partneriaeth  Gyrfa Cymru Gorllewin i gynnig y cyfle cyffrous hwn. Bydd y disgyblion yn ymweld Â'r busnesau bach sy'n masnachu yn y ganolfan i weld sut maent yn gweithredu o ddydd i ddydd.
Bydd y daith ddwy awr yn cynnwys gwybodaeth am fenthyciadau a grantiau yn ogystal Â'r gefnogaeth ymarferol ac ariannol sydd ar gael i bobl ifanc. Caiff y disgyblion gyfle hefyd i wrando ar brofiadau entrepreneur ifanc yn y Ganolfan. Ar ddiwedd yr ymweliad byddant yn derbyn tystysgrif gyfranogiad i gefnogi eu hastudiaethau ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth am sut y gellir troi syniadau da'n fusnesau bach a fydd, yn ei dro, yn arwain at fwy o swyddi.
"Mae'n bwysig sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod am hunangyflogaeth wrth ddewis eu gyrfaoedd ar gyfer y dyfodol," meddai Arweinydd y Cyngor, Ali Thomas.
"Y ffordd orau o wneud hyn yw rhoi digon o wybodaeth iddyn nhw fel eu bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth a'r mentora sydd ar gael."
Yr ysgol gyntaf i gwrdd Â'r tîm fydd Ysgol Gyfun Llangatwg yr wythnos nesaf a bydd ysgolion eraill yn dilyn ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas, "Mae'n rhaid i ni gadw entrepreneuriaid ifanc addawol yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan mai nhw yw busnesau bach y dyfodol a fydd yn creu swyddi lleol."
NODYN I'R GOLYGYDDION
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y tîm ar 01639 686071