Bwrdd Gwasanaethau Lleol
Byrddau Gwasanaethau Lleol (BGLl) yw model Cymru ar gyfer
cynnwys holl wasanaethau cyhoeddus Cymru mewn ffordd newydd o
weithio drwy integreiddio gwasanaethau ac ymateb yn fwy effeithiol
i anghenion dinasyddion.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cynnwys sefydliadau partner
strategol sydd wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i gyflwyno nodau
ac amcanion Cynllun Cymunedol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r Bwrdd
yn ceisio hybu gwasanaethau integredig a dileu rhwystrau
sefydliadol er mwyn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ar
gyfer anghenion dinasyddion. Mae Byrddau Gwasanaethau Lleol yn dod
ag arweinwyr ynghyd o sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a
gwirfoddol i gydweithio’n fwy effeithiol ac effeithlon. Mae
aelodau’r BGLl yn
gweithredu fel aelodau anghynrychioliadol, i gynorthwyo a herio’r
asiantaethau partner, yn unigol ac ar y cyd, i gyflwyno
gwasanaethau cyhoeddus ardderchog i ddinasyddion. Er nad oes gan y
BGLl bwerau penderfynu, cytunir ac ymrwymir i gamau gweithredu ar y
cyd gydag unrhyw benderfyniadau ffurfiol yn cael eu gwneud drwy
brosesau gwneud penderfyniadau partneriaid unigol.
Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl), fel rhan o'i rôl
arweinyddiaeth, wedi dechrau datblygu ei gynllun integredig sengl
cyntaf. Ar hyn o bryd, cynlluniau partneriaeth trosgynnol statudol
CNPT yw'r Cynllun Cymunedol, y Cynllun Diogelwch Cymunedol, y
Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a'r Cynllun Plant a
Phobl Ifanc. Bydd y rhain yn cael eu disodli gan Gynllun Integredig
Sengl CNPT a fydd yn rhoi agenda o ganlyniadau gwell a rennir.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Vicky Bishop
Swyddog Datblygu ac Ymchwil y Bwrdd Gwasanaethau Lleol
Ffôn: 01639 763731
E-bost: Bwrdd Gwasanaethau Lleol
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 14.01.2013 am 17:02