Beicio a Beicio dros y
Fynydd
Mae Llwybr Beicio Cwmtawe yn rhedeg ar hyd yr afon Tawe o
Bontardawe i Ystalyfera. Mae Llwybr Beicio Bryn yn rhedeg o
Wildbrook yn Nhaibach, Port Talbot i Bryn.Ar gyfer llwybrau beicio
eraill cysylltwch â'r Gwasanaethau Hamdden ar (01639) 763207.
Mae gan Barc Fforest Afan tua 14 milltir o lwybrau beicio oddi
ar y ffordd. Mae'r llwybrau hyn yn dilyn hen lwybrau rheilffyrdd a
lwybrau'r Comisiwn Coedwigaeth ac yn rhoi'r cyfle i chi archwilio
prydferthwch Cwm Afan. Gallwch hurio beiciau oedolion a
phlant yng Nghanolfan Hurio Beiciau Parc Afan Fforest.
Mae llwybrau beicio mynydd mwy anturus ar gael. Am fanylion
pellach, cliciwch ar http://www.singletrack-mind.org.uk/.
Am fanylion pellach ar lwybrau beicio Afan Argoed a chanolfannau
hurio, cysylltwch â'r parc ar (01639) 850564.
- The Celtic Trail / Y Lôn Geltaidd
Bydd y Lôn Geltaidd yn darparu 380 milltir (608 cilomedr) o
lwybrau beicio diogel sydd yn cysylltu'r prif drefi a'r canolfannau
twristaidd o gwmpas De Cymru. Bydd yn ffurfio rhan o Lwybr 4 y
Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (RhBC).
Mae'r llwybr 'Lefel Uchel' yn rhan o'r rhwydwaith hwn ac yn mynd
ar hyd y tir coediog uchel uwchben y cymoedd rhwng Castell-nedd a
Phontypridd. Mae'r llwybr yn ymestyn dros 24 milltir (38 cilomedr)
ac yn cynnwys ffyrdd fforestydd a llwybrau sengl yn bennaf. Mae
rhannau o'r llwybr yn cynnwys nifer o graddiantau serth a thir
garw. Ffoniwch y Lôn Geltaidd ar
Ffôn Di-dâl: 0800 243731
E-bost: celtic-trail@tsww.com
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 08.04.2010 am 14:50