Archwilydd Cyffredinol / Swyddfa Archwilio Cymru - Fenter Twyll
Genedlaethol
1. Mae'n ofynnol i'r awdurdod hwn yn unol â'r gyfraith
ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Caiff rannu
gwybodaeth a roddir iddo â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio
neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
2. Yr Archwilydd Cyffredinol sy'n penodi'r archwilydd i archwilio
cyfrifon yr awdurdod hwn. Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal
ymarferion paru data.
3. Mae prosesau paru data yn cynnwys cymharu cofnodion
cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion
cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall.
Gwybodaeth bersonol yw'r data fel arfer. Mae prosesau paru data
cyfrifiadurol yn ei gwneud yn bosibl adnabod ceisiadau a thaliadau
twyllodrus. Gall achos unigol o baru data olygu anghysondeb. Ni
ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y
cynhelir ymchwiliad.
4. Ar hyn o bryd mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn
ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i
atal a chanfod twyll. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn
ofynnol i'r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben
hwn. Mae'n ofynnol i ni roi setiau penodol o ddata i'r Archwilydd
Cyffredinol i'w paru ar gyfer pob ymarfer, a nodir y rhain yn
llawlyfrau'r Archwilydd Cyffredinol, y gellir eu gweld yn http://www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp.
5. Defnyddir data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru
data ag awdurdod statudol fel rhan o'i bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 1998. Nid oes angen caniatâd yr
unigolion perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
6. Mae prosesau paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod
Ymarfer. Mae ar gael yn www.wao.gov.uk.
7. I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd
Cyffredinol a'r rhesymau pam mae'n paru gwybodaeth benodol, ewch i
http://www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp
neu cysylltwch â Katrina Febry, Cydgysylltydd y Fenter Twyll
Genedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan,
Caerdydd CF11 9LJ, 029 2032 0616 neu anfonwch e-bost at infoofficer@wales.gov.uk.
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 31.08.2012 am 18:03