Gostyngiadau i Filiau Treth y Cyngor
Cyffredinol
Gellir cael gostyngiadau i filiau Treth y Cyngor drwy'r
canlynol:
Disgownt
Mae biliau Treth y Cyngor wedi eu seilio ar y rhagdybiaeth bod 2
neu fwy o oedolion (hy. pobl 18 oed a throsodd) yn byw yn yr
eiddo.
Os un person yn unig sy'n byw yn yr eiddo, rhoddir disgownt o
25%; yr enw ar hyn yw Disgownt Person Sengl.
Yn ogystal, ni fydd rhywrai'n cael eu cyfrif yn nifer yr
oedolion sy'n byw yn yr eiddo:
- os un oedolyn yn unig fydd yn cael ei gyfrif, bydd disgownt o
25%;
- os na fydd unrhyw oedolyn yn cael ei gyfrif, bydd disgownt o
50%.
Y canlynol yw'r grwpiau mwyaf cyffredin o oedolion na fydd yn
cael eu cyfrif:
Carcharorion
- rhywun sydd wedi cael ei remandio neu sydd yng ngharchar
(heblaw eu bod yng ngharchar am beidio â thalu Treth y Cyngor neu
ddirwy).
Pobl â nam meddyliol difrifol
- rhywun sy'n dioddef o nam difrifol o ran dealltwriaeth a
gweithredu cymdeithasol (sut bynnag yr achoswyd ef) sy'n ymddangos
fel rhywbeth parhaol (gan gynnwys clefyd Alzheimer);
- rhaid i feddyg teulu gofrestru bod nam meddyliol dwys ar y
person;
- rhaid i'r person â nam meddyliol difrifol fod yn derbyn nifer o
fudd-daliadau, gan gynnwys budd-daliadau analluogrwydd penodol,
lwfansau anabledd, lwfans anghyflogadwyedd neu lwfansau
gweini.
Pobl y mae budd-dâl plant yn daladwy ar eu cyfer
- rhywun dros 18 oed, ond bod Budd-dâl Plant yn cael ei dalu
iddynt o hyd.
pobl 18 ac 19 oed
- pobl 18 ac 19 oed sydd mewn addysg llawn amser mewn
ysgol neu goleg ar gwrs hyd at safon lefel A;
- Ni chaiff pobl 18 & 19 oed eu cynnwys tan 1 Tachwedd yn y
flwyddyn y byddant yn gadael yr ysgol neu'r coleg, neu hyd nes
iddynt gyrraedd eu pen blwydd yn 20 oed os yw hyn yn gynt; nid yw
hyn yn cynnwys pobl 18 & 19 oed mewn addysg uwch, ond efallai y
gallent fod yn gymwys i gael disgownt fel myfyrwyr.
Prentisiaid
- rhywun sy'n cael ei gyflogi i ddysgu crefft neu
broffesiwn
ac sydd, fel rhan o'r dysgu, yn ymgymryd â hyfforddiant sy'n arwain
at gymhwyster a gydnabyddir gan Gyngor Cenedlaethol Cymwysterau
Galwedigaethol;
- ni ddylai'r person fod yn ennill mwy na £160 yr wythnos;
- rhaid i'r person ddisgwyl ennill llawer mwy ar ôl cymhwyso
Myfyrwyr
rhywun sydd ar gwrs addysg llawn amser yn y Brifysgol neu goleg
sydd yn:
- para am o leiaf un flwyddyn academaidd neu galendr;
- gofyn am fynychu o leiaf 24 wythnos yn y flwyddyn;
- yn golygu astudio o leiaf 21 awr yr wythnos yn ystod y
tymor;
neu rywun dan 20 oed sy'n dilyn cwrs sydd:
- yn para o leiaf 3 mis;
- yn golygu o leiaf 12 awr yr wythnos o astudio;
- arwain at gymhwyster hyd at safon lefel A, ONC neu OND (hy.
Cwrs addysg bellach yn hytrach nag uwch);
neu nyrs fyfyriwr sy'n astudio cwrs academaidd mewn prifysgol
neu ar gwrs Prosiect 2000; neu gynorthwy-ydd iaith dramor mewn
sefydliad addysgol ym Mhrydain sydd wedi cofrestru gyda'r Swyddfa
Ganolog dros Ymweliadau a Chyfnewidiadau Addysgol).
Pobl dan hyfforddiant - Hyfforddi Ieuenctid
- person dan 25 oed sy'n cael ei hyfforddi yn unol â chynllun
hyfforddi unigol dan y Cynllun Hyfforddi Ieuenctid (ee. Opsiynau
TCT, Dyfodol, Cam Nesaf).
Cleifion mewn Ysbyty
- rhaid i'r person fod yn glaf sy'n byw yn yr ysbyty;
- Nid yw person sydd yn yr ysbyty ond a fydd yn dychwelyd i'w
chartref/ i'w gartref yn cwrdd â'r diffiniad.
Gweithwyr Gofal
- person sy'n byw gyda rhywun ac yn darparu gofal iddo/i sy'n
derbyn budd-dâl perthnasol, ond nid priod, partner, rhiant na
phlentyn;
- rhaid i'r gofalwr fod yn darparu o leiaf 35 awr yr wythnos ar
gyfartaledd.
- neu berson sy'n cael ei gyflogi fel gweithiwr gofal gan elusen
neu gorff cyhoeddus, neu gan y person y gofalir amdano/i, os
cyflwynwyd y person hwnnw i'r gofalwr drwy elusen;
- rhaid i'r gofalwr gael ei gyflogi i ddarparu gofal am o leiaf
24 awr yr wythnos heb dderbyn mwy na £36 yr wythnos;
- rhaid i'r gofalydd fod yn byw mewn llety a ddarparwyd er mwyn
darparu gofal.
Cleifion mewn Cartref Gofal, Cartref Nyrsio, Cartref Nyrsio
Meddyliol, neu Hostel sy'n darparu Lefel Uchel o Ofal
- person sy'n byw mewn un o'r uchod ac yn derbyn gofal yno;
- Ni fydd person sy'n dychwelyd i'w chartref/ i'w gartref yn
cwrdd â'r diffiniad.
Mathau eraill o bobl nad ydynt yn cael eu cyfrif yw
- Preswylwyr mewn Hosteli ar gyfer y digartref neu
cysgodfannau nos;
- Aelodau o Gymunedau Crefyddol;
- Aelodau (a Dibynyddion) Pencadlysoedd
Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn;
- Aelodau (a Dibynyddion) Lluoedd ar Ymweliad;
- Personau â Breintiau/ Breinryddid Diplomyddol;
- Pobl nad ydynt yn Brydeinig sy'n briod â Myfyrwyr.
Os nad oes rhywun yn byw yn yr eiddo ac mae heb ei ddodrefnu,
rhoddir disgownt o 50% (gweler Eiddo
Gwag).
Os yw'r eiddo yn ail gartref neu'n gartref gwyliau, rhoddir
disgownt o 25% fel arfer (gweler Ail Gartrefi
a Chartrefi Gwyliau).
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech wneud cais am
ddisgownt, cysylltwch ag Is-adran Treth y Cyngor:
- ar yr e-bost
council.tax@npt.gov.uk;
- drwy ffonio Is-adran Treth y Cyngor ar 01639 -764567
(Castell-nedd) neu 01639 -763152 (Port Talbot);
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Castell Nedd
- drwy alw'n bersonol yn Is-adran Treth y Cyngor, Y Ganolfan
Ddinesig, Bort Talbot;
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe.
Gostyngiadau
oherwydd Anableddau
Gellir cynnig gostyngiad lle bo rhywun anabl yn byw mewn annedd
ac mae gan yr annedd honno un o'r nodweddion canlynol sy'n cyflawni
anghenion arbennig y person anabl:
- ystafell (ond nid ystafell ymolchi, cegin neu doiled) a
ddefnyddir gan y person anabl;
- ail ystafell ymolchi neu gegin ar gyfer y person anabl;
- Digon o le ar y llawr i ddefnyddio cadair olwyn yn yr
annedd.
Os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth, bydd eich bil Treth y
Cyngor yn cael ei ostwng i'r swm sy'n daladwy yn y Band Prisio
nesaf i lawr (hy. Os yw eich eiddo ym Mand D, bydd y bil yn cael ei
ostwng i'r tâl ar gyfer Band C). Hyd yn oed os yw eich eiddo ym
Mand Prisio A, byddwn yn gostwng eich bil.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am Ostyngiad oherwydd Anabledd,
cysylltwch â ni:
- ar yr e-bost
council.tax@npt.gov.uk;
- drwy ffonio Is-adran Treth y Cyngor ar 01639 -764567
(Castell-nedd) neu 01639 -763152 (Port Talbot);
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Castell Nedd
- drwy alw'n bersonol yn Is-adran Treth y Cyngor, Y Ganolfan
Ddinesig, Bort Talbot;
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe.
Eithriadau
Mae eiddo weithiau yn cael eu heithrio rhag talu Treth y
Cyngor.
Mae rhai eithriadau yn para am gyfnodau sefydlog yn unig, tra bo
eraill yn para cyhyd â bod yw'r eiddo yn cwrdd â'r meini prawf ar
gyfer eithriadau.
Esbonnir y prif eithriadau isod. Rhannwyd yr eithriadau yn 3
chategori cyffredinol:
- eiddo lle nad oes neb yn byw ac sydd heb ei ddodrefnu;
- eiddo lle nad oes neb yn byw ond sydd wedi'i ddodrefnu;
- eiddo lle mae rhywun yn byw.
Eiddo lle nad oes neb yn byw ac sydd heb ei ddodrefnu
- Anheddau anaddas i fyw ynddynt (Dosbarth Eithriedig A)
- annedd sydd angen, sy'n derbyn, neu syd wedi derbyn
- atgyweiriadau sylweddol i'w gwneud yn addas i fyw ynddi;
- neu annedd sy'n derbyn neu sydd wedi derbyn newidiadau
strwythurol;
- mae'r eithriad yn dod i ben ar y cynharaf o'r canlynol:
- 12 mis ar ôl iddo gychwyn;
- 6 mis ar ôl gorffen y gwaith;
- pan fydd rhywun yn dechrau byw yn yr annedd eto.
- Anheddau Gwag (Dosbarth Eithriedig C)
- annedd wag gan gynnwys annedd newydd ei hadeiladu;
- mae'r eithriad yn para hyd at chwe mis;
Eiddo lle nad oes neb yn byw ond sydd wedi ei ddodrefnu
- Anheddau gwag oherwydd Cleifion mewn Ysbyty /Cartref Gofal
(Dosbarth Eithriedig E) annedd wag oherwydd bod y person a fu'n
gyfrifol am Dreth y Cyngor yn y gorffennol nawr yn byw mewn ysbyty,
cartref gofal preswyl neu hostel er mwyn derbyn triniaeth;
- i ni ganiatáu'r eithriad, rhaid i'r symud i'r ysbyty ac ati fod
yn barhaol, a rhaid i'r person a fu'n talu Treth y Cyngor ddal i
fod yn berchennog neu denant yr eiddo.
- Nid oes terfyn amser ar yr eithriad hwn, er y bydd yn dod i ben
os bydd oedolyn arall yn dod i fyw yn yr eiddo neu os bydd yr eiddo
yn cael ei werthu.
Anheddau Gwag yn dilyn marwolaeth person ( Dosbarth Eithriedig
F)
- annedd sy'n wag oherwydd bod y person a oedd yn gyfrifol am
Dreth y Cyngor yn y gorffennol wedi marw ac nid oes neb arall yn
byw yn yr annedd;
- gall yr eithriad barhau am chwe mis ar ôl caniatáu profiant,
ond bydd yn dod i ben yn gynt os caiff yr eiddo ei werthu neu ei
drosglwyddo i berchennog newydd, neu os daw rhywun i fyw yn yr
eiddo.
Anheddau a adawyd yn wag gan bobl sy'n derbyn gofal (Dosbarth
Eithriedig I)
- annedd lle nad oes neb yn byw oherwydd fod y person a fu'n
gyfrifol am Dreth y Cyngor yn y gorffennol wedi symud i rywle arall
(ond nid i'r ysbyty neu gartref gofal) i dderbyn gofal oherwydd
henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu salwch
meddwl;
- nid oes terfyn amser ar yr eithriad hwn, ond bydd yn dod i ben
os bydd rhywun arall yn dod i fyw yn yr eiddo neu
os bydd yr eiddo yn cael ei werthu.
Eiddo a adawyd yn wag gan Ddarparwyr Gofal (Dosbarth Eithriedig
J)
- annedd lle nad oes neb yn byw oherwydd bod y person a oedd yn
gyfrifol am Dreth y Cyngor yn y gorffennol wedi symud i rywle arall
i ddarparu gofal personol i rywun arall;
- Nid oes rhaid i'r gofalwr fyw gyda'r person sy'n derbyn gofal,
ond rhaid iddo fod yn gallu darparu gofal gwell o'r cartref
newydd;
- Nid oes terfyn amser ar yr eithriad, ond bydd yn dod i ben os
bydd rhywun arall yn dod i fyw i'r eiddo neu os bydd yr eiddo yn
cael ei werthu.
Eiddo lle mae rhywun yn byw
Anheddau lle mae myfyrwyr yn byw (Dosbarth N)
- eiddo ar gyfer myfyrwyr, rhai sy'n gadael ysgol neu goleg, neu
bobl dramor sy'n briod â myfyrwyr yn unig;
- mae'r eithriad hefyd yn berthnasol yn ystod y gwyliau os y
myfyriwr(wyr) yw'r bobl sy'n atebol a bwriedir defnyddio'r eiddo
fel llety iddynt yn ystod y tymor.
Anheddau ar gyfer Pobl dan 18 oed yn unig (Dosbarth S)
- annedd lle mae person neu bobl dan 18 oed yn unig yn byw;
- bydd yr eithriad yn gorffen cyn gynted ag y bydd un o'r
preswylwyr yn cyrraedd 18 oed.
Anheddau ar gyfer pobl â nam meddyliol difrifol yn unig
(Dosbarth U)
- annedd ar gyfer person neu bobl â nam meddyliol
difrifol yn unig h.y rhywun sy'n dioddef o nam difrifol o ran
dealltwriaeth a gweithredu cymdeithasol, sut bynnag yr achoswyd ef,
sy'n ymddangos fel rhywbeth parhaol (gan gynnwys clefyd
Alzheimer);
- rhaid i feddyg teulu gofrestru bod nam meddyliol dwys ar y
person;
- ni fydd yr eithriad yn berthnasol os perchennog yr annedd sy'n
gyfrifol am dalu Treth y Cyngor.
Anheddau lle mae Perthnasau Dibynnol yn byw (Dosbarth W)
annedd sy'n rhan o annedd arall a lle mae person yn byw sy'n 65
oed neu'n hy^n, neu sydd ag anabledd meddyliol difrifol, neu sydd
ag anabledd sylweddol a pharhaol, ac sy'n berthynas dibynnol i
breswylydd y prif annedd.
Caiff y dosbarthiadau eithrio eraill eu rhestru isod
Am ragor o wybodaeth amdanynt, cysylltwch ag Is-adran Treth y
Cyngor arno:
01639 686840 (Castell Nedd)
01639 763152 (Bort Talbot)
- Dosbarth B - Anheddau gwag sy'n eiddo i Elusennau
- Dosbarth D - Anheddau a adawyd yn wag gan bobl sydd yng
ngharchar
- Dosbarth G - Anheddau lle gwaherddir preswylio yn ôl y
Gyfraith
- Dosbarth H - Anheddau Gwag a gedwir ar gyfer Gweinidog yr
Efengyl
- Dosbarth K - Anheddau a adawyd yn wag gan fyfyrwyr
- Dosbarth L - Anheddau a ailfeddiannwyd
- Dosbarth M - Neuaddau Preswyl Myfyrwyr
- Dosbarth O - Llety'r Lluoedd Arfog
- Dosbarth P - Anheddau lle mae aelodau o Luoedd ar Ymweliad yn
byw
- Dosbarth Q - Anheddau a adawyd yn wag gan fethdalwyr
- Dosbarth R - Lleiniau Carafán ac Angorfeydd Badau sy'n Wag
- Dosbarth T - Rhandai Gwag
- Dosbarth V - Anheddau lle mae Diplomyddion yn Byw
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech wneud cais am
Eithriad, cysylltwch ag Is-adran Treth y Cyngor:
- e-bost:
council.tax@npt.gov.uk;
- drwy ffonio Is-adran Treth y Cyngor ar 01639 -764567
(Castell-nedd) neu 01639 -763152 (Port Talbot);
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Castell Nedd;
- drwy alw'n bersonol yn Is-adran Treth y Cyngor, y Ganolfan
Ddinesig, Bort Talbot;
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe.
Os oes llai na £16,000 o gynilion gennych ac mae eich incwm yn
isel, mae'n bosib y gallwch hawlio Budd-dâl Treth y Cyngor.
Gallwch hawlio Budd-dâl Treth y Cyngor hyd yn oed os ydych yn
gweithio. Bydd maint y Budd-dâl yn dibynnu ar y canlynol:
- beth yw eich incwm wythnosol;
- faint o gynilion sydd gennych;
- faint o blant dibynnol sydd gennych;
- sawl person nad yw'n ddibynnol sy'n byw gyda chi a beth yw eu
hincwm.
Cliciwch yma i gael mwy o fanylion am fudd-dâl
Treth y Cyngor
Mae ffurflen gais ar gyfer Budd-dâl Treth y Cyngor ar gael:
- e-bostio
housing.benefits@npt.gov.uk;
- drwy ffonio Is-adran Treth y Cyngor ar 01639 764755
(Castell-nedd) neu 763454 (Port Talbot);
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Castell Nedd;
- drwy alw'n bersonol yn Is-adran Treth y Cyngor, y Ganolfan
Ddinesig, Bort Talbot;
- drwy alw'n bersonol yn Siop Cyngor Cyntaf Pontardawe.
Lawrlwytho
Mae’r holl ddogfennau’n agor mewn ffenestr newydd.

Lawrlwytho: Acrobat PDF Reader (Gwefan Allanol). Acrobat PDF Reader yn caniatáu i chi weld ffeiliau PDF.
Am fwy o fanylion ar sut i edrych ar ddogfennau, cyfeiriwch at ein tudalennau Help.
Manylion y Dudalen
Diweddarwyd: 07.03.2013 am 15:56