Rheoli Adeiladu
Nod yr is-adran Rheoli Adeiladu yw darparu gwasanaeth
cwsmeriaid cyfeillgar o'r safon uchaf. Nododd Arolygiad Gwerth
Gorau annibynnol diweddar ein bod yn darparu gwasanaeth 2 seren
“da”.
Mae gan ein swyddogion wybodaeth fanwl am adeiladu ynghyd â
dealltwriaeth fanwl o'r Rheoliadau Adeiladu a sut maent yn cael eu
cymhwyso.
Rydym yn annibynnol ac nid ydym yn cael ein cyflogi gan unrhyw
barti sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu. Ein hunig ddiddordeb yw
bod y gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ofynnol.

Mae ein swyddogion yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth Rheoli
Adeiladu Awdurdod Lleol. Yn wahanol i'r sector preifat, rydym yn
atebol drwy Aelodau'r Cyngor.
Rydym yn gyfrifol am reoli datblygiadau adeiladu i sicrhau bod
safonau iechyd a diogelwch yn cael eu cyflawni o ran adeiladu a
mesurau dianc a bod safonau gofynnol yn cael eu cyflawni o ran
effeithlonrwydd ynni a mynediad i'r anabl.
Mae'r gwasanaeth yn cystadlu â'r sector preifat ac mae'r holl
waith yn ennill ffioedd, ac eithrio gwaith sydd â'r nod o ddarparu
mynediad neu gyfleusterau i'r anabl.
Mae'n rhaid i'r gwasanaeth fod yn hunangyllidol dros gyfnodau o
3 blynedd.
At hyn, mae'r gwasanaeth yn gyfrifol am ymdrin ag Adeileddau
Peryglus dan y Ddeddf Adeiladu a swyddogaethau dan Ddeddf Diogelwch
Caeau Chwarae.
Mae ein staff ar gael i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau
sydd gennych a byddant yn falch o gynnig unrhyw gyngor cyn i chi
wneud cais.
Gwarantir archwiliadau safle ar gyfer yr un diwrnod os gwneir
cais cyn 10.00am, ond byddwn yn ymdrechu i gyflawni unrhyw
geisiadau a wnaed yn ddiweddarach.