… mae’n trafod pobl, llefydd a busnes
Mynd i’r afael â diweithdra ac adfywio cymunedau yw’r prif
amcanion ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot.
I gyflawni’r amcanion hyn rhaid cael ymagwedd gydlynol gan y Cyngor
a’i bartneriaid o ran datblygu economaidd.
Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i sicrhau bod amodau lleol yn
helpu i ddenu a chadw busnesau, a bod pobl leol yn elwa o’r
cyfleoedd swyddi o ganlyniad i hynny.
Yn y rhan hon o’r safle gallwch ddarganfod sut mae’r Cyngor yn
gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i:
- ddarparu swyddi ar gyfer pobl leol
- gwella’r llefydd lle rydym yn gweithio ac yn byw, a
- helpu busnesau i ddatblygu a thyfu