Ydych chi’n Ofalwr
Yn aml nid yw gofalwyr yn cael unrhyw gydnabyddiaeth na thâl am
ofalu ac yn aml bydd eu hanghenion hwy’n cael eu hanwybyddu. Mae
Gofalwr yn rhoi cymorth, cefnogaeth neu ofal i rywun arall o unrhyw
oed sy’n anabl yn gorfforol neu’n feddyliol, sydd â salwch tymor
hir neu sy’n fregus. Bydd y daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am
y cymorth sydd ar gael trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot ac yn nodi sefydliadau eraill a fydd yn gallu
helpu.
Gall gofalwyr fod yn ...
- Oedolion neu’n blant
- Gofalu am blentyn neu oedolyn ag anghenion arbennig
- Gofalu am rywun hŷn a bregus neu’n
Gofalu am rywun ag anabledd corfforol neu’n
Gofalu am rywun ag anableddau dysgu neu’n
Gofalu am rywun â phroblemau iechyd meddwl
- Gofalu ar eich pen eich hun neu rannu’r dasg ag eraill
- Rhannu cartref gyda’r person rydych yn gofalu amdano neu’n byw
rhywle arall
Gall gofalwyr helpu gyda phethau fel gwisgo neu ymolchi, yn
ogystal â rhoi pob math o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Lawrlwytho
(Nodyn: i lawrlwytho'r ffeiliau, cliciwch ar y cysylltiadau uchod. Am fwy o fanylion ar sut i edrych ar ddogfennau PDF, cyfeiriwch at ein tudalennau Help.)