Eich Cyngor

Yma » Hafan » Eich Cyngor » Cynllun Cymunedol Castell-nedd Port Talbot 2005-2015
Cynllun Cymunedol

Cynllun Cymunedol
Castell-nedd Port Talbot 2005-2015

Dyma ail Gynllun Cymunedol Castell-nedd Port Talbot a gynhyrchwyd gan Bartneriaeth Cynllun Cymunedol Castell-nedd Port Talbot. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2005.

Datblygwyd y Cynllun Cymunedol gan y Cyngor a'i bartneriaid o'r sectorau cyhoeddus, busnes a gwirfoddol ac mae'n disgrifio cydweledigaeth ar gyfer Castell-nedd Port Talbot dros y deng mlynedd nesaf.

Mae'r Cynllun yn manylu ar yr hyn yr ydym am ei wneud gyda'n gilydd er mwyn gwella ansawdd bywyd, lles a iechyd pawb yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rhaglen gyraeddadwy ond heriol ar gyfer y dyfodol yw'r Cynllun ac mae pawb yn ymrwymedig i weithio gyda'i gilydd i gyflawni targedau ac amcanion y Cynllun.

Mae'r Cynllun ar gael ar wefan y Cyngor yn. Os hoffech gael copi caled neu os oes angen i chi gael y wybodaeth hon mewn print bras, Braille, ar dâp neu ar ddisg, ffoniwch y tîm strategaethau corfforaethol ar 01639 763173 neu e-bostiwch corporate.strategy@npt.gov.uk.

Lawrlwytho


(Nodyn: i lawrlwytho'r ffeiliau, cliciwch ar y cysylltiadau uchod. Am fwy o fanylion ar sut i edrych ar ddogfennau PDF, cyfeiriwch at ein tudalennau Help.)

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 686868 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau