Troseddau ac Anhrefn
Gosododd Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 ddyletswydd statudol ar
y cyd ar awdurdodau lleol a'r heddlu i fynd i'r afael â throseddau
ac anhrefn. Mae'r Ddeddf yn gofyn i'r Cyngor a'r Heddlu lunio
Archwiliad Troseddau ac Anhrefn lleol, datblygu Strategaeth yn
seiliedig ar yr archwiliad a pharatoi Cynlluniau Gweithredu er mwyn
gweithredu'r strategaeth. Rhaid i hyn oll gael ei wneud mewn
partneriaeth ag asiantaethau allweddol eraill. Mae gan Gastell-nedd
Port Talbot brofiad ardderchog o lunio mentrau atal troseddau mewn
partneriaeth ag asiantaethau statudol eraill ac mae'r Ddeddf wedi
cynnig cyfle i gydlynu a chanolbwyntio'r gwaith yr ymgymerwyd ag ef
hyd yn hyn ar faterion troseddau ac anhrefn.
Fe'i gelwid yn Dîm Diogelwch Cymunedol ynghynt, ond o Ebrill
2000 derbyniodd yr enw Tîm Troseddau ac Anhrefn. Rydym yn bodoli ar
gyflogau a chostau rhedeg ac rydym bob amser yn chwilio am arian os
oes gennych beth ar gael.
Gellir cysylltu â ni ar 01639 889163, ffacs 01639 889174, neu
e-bost
community.safety@npt.gov.uk.
Mae Partneriaeth Troseddau ac Anhrefn Castell-nedd Port Talbot
yn cysylltu unigolion a sefydliadau o'r ardal er mwyn cydlynu
polisïau a gweithrediadau troseddau ac anhrefn, yn unol â'r Ddeddf
Troseddau ac Anhrefn.
Y prif asiantaethau yn y bartneriaeth yw Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot a Rhanbarth "G" Heddlu De Cymru.
Mae'r bartneriaeth hefyd yn cynnwys nifer o asiantaethau allweddol
fel y Grw^p Iechyd Lleol, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth Tân a'r
Sector Gwirfoddol.
Mae'r tudalennau hyn yn darparu manylion nodau ac amcanion y
partneriaethau, gwybodaeth ar sefydliadau perthnasol a manylion
cyswllt. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau,
ychwanegwch nhw at y ffurflen
ymholiadau/adborth.
