Beth yw Treth y Cyngor?
Treth y Cyngor yw'r ffurf gyfredol ar drethi lleol mewn
perthynas ag eiddo domestig, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i
godi arian i dalu am oddeutu 20% o gostau gwasanaethau lleol fel
Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Casglu Sbwriel etc.
Treth ar eiddo gydag elfen bersonol yw Treth y Cyngor.
Seilir yr elfen eiddo ar Fand Prisio Annedd (gweler Bandiau
Prisio). Mae'r elfen bersonol yn ystyried nifer y bobl dros 18 oed
sy'n byw yn yr eiddo, ac yn caniatáu disgownt o dan rai
amgylchiadau.