Croeso i Tai
Croeso i hafan Adran Dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot. Gobeithio y byddwch yn cael y wybodaeth ar y wefan yn
ddefnyddiol ac yn hawdd i'w deall wrth i chi chwilio am gartref neu
am wybodaeth ar ein gwasanaethau.
Lleolir Castell-nedd Port Talbot i'r
Gorllewin o Ben-y-Bont ac i'r De o Abertawe. I'r gogledd mae Powys,
ac i'r De ceir Môr Hafren.
Mae'r Fwrdeistref yn mwynhau gwasanaeth da o ran cysylltiadau
trafnidiaeth gyda Gwasanaethau Trenau Intercity yn galw yng
Nghastell-nedd a Phort Talbot ar y ffordd i Fryste ac i Paddington
yn Llundain. Ceir meysydd awyr gerllaw yn Abertawe a Chaerdydd gyda
Gwasanaethau Mewnol a Rhyngwladol, a phorthladd fferi yn Abertawe
gyda hwyliadau rheolaidd gydol y flwyddyn i Iwerddon. Mae'r M4 yn
rhedeg ar draws y Fwrdeistref i'r De gan roi Caerdydd, Abertawe a
Phen-y-Bont o fewn cyrraedd hwylus ac mae ffordd Blaenau'r Cymoedd
yn cludo teithwyr yn gyflym o Gastell-nedd yn y Gorllewin i Lyn
Ebwy yng Ngwent yn y Dwyrain. Mae gan orsafoedd bysiau Castell-nedd
a Phort Talbot wasanaethau i'r rhan fwyaf o brif ddinasoedd a
meysydd awyr y DU.
Mae gan y Gwasanaeth Tai 11,000 o eiddo ar draws y Fwrdeistref.
Mae gan y Gwasanaeth eiddo ar hyd yr arfordir ac ym mhob un o'r pum
cwm yn y Bwrdeistref, sef Cwmtawe Uchaf, Dyffryn Aman, Cwm Nedd,
Cwm Dulais a Chwm Afan. Lleolir llawer o'r eiddo mewn lleoliadau
cefn gwlad deniadol neu ar yr arfordir, a mae eraill ym mhrif drefi
Port Talbot, Castell-nedd a Phontardawe.
Mae gan y Gwasanaeth Tai dros 500 o eiddo mewn cynlluniau
cysgodol ar draws y Fwrdeistref, ac mae hefyd lawer o eiddo sy'n
benodol ar gyfer yr henoed ond lle nad oes warden, sy'n caniatáu
mynediad hawdd ond bywyd annibynnol hefyd. Mae gweddill yr eiddo yn
cynnwys fflatiau un, dwy a thair llofft, a thai un, dwy, tair a
phedair llofft.
Mae gan y Gwasanaeth Tai dair Swyddfa Dai Leol sydd wedi'u
lleoli'n gyfleus lle y gellir delio â'ch holl ymholiadau. Lleolir
hwy yn:
Swyddfa Dai Ardal Port Talbot,
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot,
SA13 1PJ
Ffon: (01639) 763235
Swyddfa Dai Ardal Castell-nedd,
Canolfan Ddinesig Castell-nedd,
SA11 3QZ
Ffon: (01639) 764646
Swyddfa Dai Ardal Pontardawe,
Siop Cyngor Cyntaf,
Stryd Holly,
Pontardawe,
SA8 4ET 4ET
Ffon: (01792) 860789
Os hoffech wneud cais am dy gyda'r Gwasanaeth e-bostiwch ni ar
housing.services@npt.gov.uk neu ffoniwch y Gwasanaeth Tai
I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau defnyddiwch y
ddewislen ar y chwith.