Llyfrgelloedd
Croeso i Wasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Castell-nedd Port
Talbot
Bellach mae llyfrgelloedd yn cynnig rhywbeth i bawb, llyfrau,
gwybodaeth, cerddoriaeth, ffilmiau a chyfrifiaduron, gyda mynediad
am ddim i'r Rhyngrwyd a gwasanaethau eraill ar lein.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Castell-nedd Port Talbot
yn darparu ystod o wasanaethau i'r gymuned leol drwy'r rhwydwaith o
18 llyfrgell a 2 lyfrgell deithiol.
Mae'r prif lyfrgelloedd yng Nghastell-nedd, Port
Talbot a Pontardawe.
Detholiad gwych o awduron yn ymweld â Llyfrgelloedd
Castell-nedd Port Talbot
Ymunwch â ni yn yr hydref am gasgliad gwych o ddigwyddiadau
mewn llyfrgelloedd ar draws y sir, gan gynnwys ymweliadau gan
Trevor Fishlock, RJ Ellory a Fflur Dafydd.
Trefnir rhaglen y digwyddiadau i gyd-fynd â'r ymgyrch Gŵyl
Lyfrgelloedd Dyddiau Da genedlaethol, a bydd yn cychwyn gydag
ymweliad gan Jeannie
Johnson. Mae Jeannie'n awdures hanesion rhamantaidd boblogaidd
iawn, a bydd yn ymddangos yn Llyfrgell Port
Talbot ddydd Iau 2 Hydref am 2:00.
Bydd
uchafbwyntiau eraill y tymor yn cynnwys ymweliad gan RJ Ellory ar
23 Hydref yn Llyfrgell Baglan. Cafodd 'A
Quiet Belief in Angels' RJ Ellory ei gynnwys yn nyfarniad llyfrau
gorau Richard a Judy yn 2008, ac mae ei lyfrau wedi derbyn llawer o
gymeradwyaeth.
Ac yn ystod Calan Gaeaf eleni, mae gennym rywbeth arbennig iawn
i'w gynnig i bawb gyda'r storïwr clodfawr Michael Harvey yn ymweld â Llyfrgell Resolfen am noson wych o straeon iasol
Calan Gaeaf .
Blwyddyn Darllen Genedlaethol
Eleni mae Diwrnod
y Llyfr hyd yn oed yn fwy arwyddocaol am ei fod yn lansio'r
Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Yn
ystod y flwyddyn, bydd rhai o awduron mwyaf poblogaidd y wlad yn
cymryd rhan mewn digwyddiadau. Bydd awduron megis Catrin Collier, Bernard Knight, Lionel Fanthorpe, Jasper Fforde, Michael Jecks, Mavis Nicholson ac Andrew Taylor i gyd yn ymweld â
llyfrgelloedd yn ystod y misoedd nesaf. Cadwch lygad allan am
ddigwyddiad Cwrdd â'r Awdur yn eich llyfrgell.
Yng Ngŵyl Margam ar 13 Gorffennaf, cynhelir diwrnod nodwedd i
ddarllenwyr a fydd yn cynnwys prif ddigwyddiad Gwobr Dylan Thomas a
nifer o awduron adnabyddus.
Bydd pabell llyfrgelloedd eto eleni yng Ngŵyl Pontardawe, 15 - 17 Awst, a
fydd yn cynnwys sesiynau adrodd storïau gwych, barddoniaeth
berfformiad a llawer, llawer mwy.
Bydd y Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol yn un rhyfeddol yng
Nghastell-nedd Port Talbot