Croeso i Byw
Os ydych chi’n ymweld am y dydd neu wedi byw yma ar
hyd eich oes, byddwch yn siwr o ddod o hyd i rywbeth diddorol i’w
wneud neu i’w weld yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ewch i archwilio
harddwch naturiol yr ardal lle cewch rhai o’r parciau gwledig a’r
parciau coedwig gorau, sgydau dramatig, afonydd dolennog a chamlesi
hamddenol.
20 Gorffennaf 2008 | 01:28
- Casglu Sbwriel
Gwella cymunedau yn amgylcheddol ac o ran eu golwg drwy
ddarparu gwasanaeth casglu sbwriel a glanhau strydoedd effeithiol
fel rhan o nodau ac amcanion Gwerth Gorau’r Awdurdod, darparu
gwybodaeth a hybu gwaredu gwastraff/sbwriel yn gyfrifol a bod yn
atebol i bawb yn y gymuned yn ardal y Fwrdeistref Sirol wrth
gyflawni’r dyletswyddau hyn.