Lle Chwarae Antur

Adventure PlaygroundEfallai y bydd y plant hy^n eisiau archwilio ein lle chwarae antur. Cwblhawyd y lle chwarae hwn ym mis Awst 2001. Gall ymwelwyr ifanc fwynhau archwilio nodweddion y Castell, rhedfa awyr a'r rhodfa uwchben i ryddhau peth stêm tra bod aelodau hy^n y grw^p yn gallu mwynhau seibiant.

Adventure PlaygroundGallwch fwynhau teithio iddo o Orsaf y Castell ar y rheilffordd gul gan wylio'r ceirw wrth gerdded yn hamddenol yn ôl i'r Castell.

Adeiladwyd y dyluniad unigryw hwn i ddal hyd at 100 o blant ar yr un pryd. Mae ganddo bedwar tw^r, tw^r canolog a ffos ffug yn ogystal â sleidiau, rhedfa awyr, pont raff sy'n ffurfio rhan o thema'r castell.

Mae ganddo hefyd nifer o nodweddion hwyliog a chyffrous gan gynnwys dau sleid dur gloyw, rhwydi dringo a gallant grwydro dros foncyffion camu a dringo ysgolion i gyrraedd lefelau uwch y castell.

Mae plant anabl hefyd yn gallu mwynhau'r profiad hwn gyda chyfleusterau o ddyluniad arbennig sy'n cynnwys eu pont godi lled dwbl, ffordd gerdded anwastad, sleid ac esgynfa.

Noder, bydd mynediad i'r Lle Chwarae Antur ond ar gael i blant 6 i 12 oed. Bydd oedolion a phlant hy^n ond yn cael mynediad os bydd plentyn yn eu cwmni.

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau