Y Ceirw
Heddiw, mae'r haid
o geirw'n crwydro drwy tua 500 erw (200 hectar) o barcdir. Mae'n
dyddio yn ôl i'r cyfnod Normanaidd er bod nifer o gyfeiriadau yn
cael eu gwneud at geirw yn ystod deiliadaeth y Rhufeinwyr.
Mae'r haid, yn wreiddiol hyddod brith yn unig, o ansawdd geneteg
ardderchog gyda rhai o'r pennau gorau ym Mhrydain.
Yn y 15 mlynedd
diwethaf, cyflwynwyd ceirw coch yn gyntaf i'r Parc ac yna'r ceirw
Pere David ac maent yn ffynnu yn y parc. Mae'r Pere David yn
rhywogaeth sydd mewn perygl ac yn y parc maent yn rhan o raglen
fridio sydd ar y gweill mewn cydweithrediad â Pharc Saffari
Whipsnade. Yn fwy diweddar, ychwanegwyd rhywogaethau ecsotig gan
gynnwys ceirw Chital neu Hobgeirw a Barasingha. Cyflwynwyd iyrchod,
Mynjacod a cheirw dw^r Tseineaidd ar raddfa fach hefyd er cafwyd
llwyddiant cymysg gyda nhw.
Mae'r haid ar hyn o bryd yn cynnwys 231 o hyddod brith, 64 o
geirw coch a 34 Pere David a nifer fach o rai ecsotig.
Y Ceidwaid Cefn Gwlad sy'n rheoli'r ceirw. Mae saethu'n rheoli'r
niferoedd yn bennaf, ac yna mae'r cig
carw'n cael ei werthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd.
Defnyddir
gwerthiannau byw lle bynnag y bo'n bosib, gyda'r ceirw naill ai'n
cael eu dal mewn rhwydi ar gyfer trawsleoliadau mawr neu unigolion
yn cael eu tawelu ar gyfer niferoedd llai.
Mae'r haid o geirw ym Mharc Margam yn adnodd addysgol ac
adlonnol ardderchog. Y man lle gwelir hyn amlycaf yw yn y llydnu
blynyddol. Gwahoddir nifer fawr o blant ysgol i helpu'r Ceidwaid
Cefn Gwlad i ddarganfod yr hyddod ifanc a thagio clustiau sampl
ohonynt.
Eleni cynhelir tagio'r hyddod o 7 - 19 Mehefin (ac eithrio'r 11
a 12) i ysgolion ac mae ar agor i'r cyhoedd ddydd Sul 9 Mehefin am
11am a dydd Sadwrn 15 Mehefin am 2pm.