Llwybr Fferm
Parhewch i gerdded heibio i Le Chwarae Castell Margam a cherdded
tua'r Llwybr Fferm.
Pa ffrindiau newydd fydd gennych?
Ceir detholiad o anifeiliaid fferm i chi eu gweld..

Gwartheg Morgannwg yw ein harbenigedd, gellir eu hadnabod drwy
eu cotiau castan â streipen wen lydan ar hyd yr asgwrn cefn, i lawr
i'r gynffon ac o dan y bola. Tybiwyd bod brîd Morgannwg wedi marw
ym Mhrydain yn ystod y 1920au. Yn 1979 daethpwyd o hyd i yr yn
Sussex, prynwyd y stoc cyfan gan eu cludo yn ôl i'r parc i sicrhau
bod y brîd yn parhau.
Ceir merlod shetland, gwartheg yr ucheldir, detholiad eang o
ddefaid, asynnod, hwyaid a gwyddau.
- Peidiwch â cholli'r Gornel Anifeiliaid i Blant lle gallwch fod
yn agosach at gwningod, geifr, ieir a hwyaid y parc.

Hyfforddiant Fferm
O'r Llwybr Fferm rydym yn cynnal cwrs hyfforddi NVQ mewn lles
anifeiliad bach.
Mae'r cwrs yn cynnwys pob agwedd ar ofal a lles anifeiliaid
bach.
Gellir cael gwybodaeth am y cwrs hwn o:
Asiantaeth Hyfforddi Heol Milland,
Parc Diwydiannol Heol Milland,
Castell-nedd, SA11 1NJ
Ffôn: 01639 636467
