Pysgota

- Mae pysgodfa fras gymysg ar gael ar Lyn Furzemill. Mae'r llyn
yn llawn Brêm, Ysgretan, Rhuddbysgod a thri rhywogaeth gwahanol o
Garp.
- Caniateir uchafswm o 8 pysgotwr, y dydd, gan gynnwys plant.
Rhaid i bysgotwyr dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn
- Mae angen trwydded Asiantaeth yr Amgylchedd (AAC), a rhaid ei
chyflwyno wrth brynu hawlen
- Mae gennym blatfform ar gyfer pysgotwyr anabl - gwiriwch
argaeledd cyn ymweld.
Hawlenni
Gellir prynu hawlen yn y ciosg wrth y fynedfa
Pris Oedolyn £5.00
Concesiynau hy Plant 4 - 16 oed; Henoed. £4.25
Amserau Pysgota
- Yr Haf 29 Mawrth 2002 - 30 Medi 2002 10.00am - 7.00pm
- Y Gaeaf 1 Hydref 2002 - 18 Ebrill 2003 10.00am -
4.30pm
- Noder bydd y Parc ar gau ar ddydd Llun a Dydd Mawrth yn ystod y
Gaeaf.
Parcio
Ceir nifer cyfyngedig o lefydd parcio tu ôl i libart y Castell.
Efallai gall pysgotwyr anabl cofrestredig barcio ger y llyn drwy
drefniant wrth gyrraedd y ciosg mynedfa
Noder:
- Ni ellir trosglwyddo hawlen
- Uchafswm o 2 wialen y pysgotwr
- Gwaherddir pysgota a thaenu abwyd gwaelod gydag abwyd fel
BOILIES, CNAU TEIGR a CHNAU bob amser
- Nid oes hawl troelli
- Bachyn di-adfach yn unig
- Cedwir yr hawl gan Reolwyr y Parc i archwilio bagiau/ basgedi
os bydd angen gwneud hynny
- Cedwir yr hawl gan Reolwyr y Parc i atal pysgota unrhyw bryd
heb rybudd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Gweinyddiaeth y Parc
ar:
Ffôn: 0044(0) 1639 881635
Ffacs: 0044 (0)1639 895897
E-bost:
margampark@npt.gov.uk
Cyfeiriad:
Swyddfa Gyffredinol
Parc Margam
Margam
Port Talbot
SA13 2TJ