Treftadaeth

Tua diwedd Haf 2003, dyfarnwyd Grant Cynllunio Prosiect
Cronfa Dreftadaeth y
Loteri i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i
gynorthwyo gyda chomisiynu archwiliad ac arolwg arbenigol o fewn
Parc Margam, yn bennaf Castell Margam, Ty'r Siapter ac Adfeilion y
Clafdy o fewn Gerddi ffurfiol yr Orendy. Bydd hyn yn galluogi'r
Awdurdod i gasglu data a fydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth y
dreftadaeth naturiol a'r dreftadaeth adeiledig, a fydd yn dylanwadu
ar y broses ddylunio ar gyfer datblygu a chynnal yr awyrgylch
hanesyddol sydd ym Mharc Margam; y bwriad yw y bydd y data a
gesglir yn cael eu cyhoeddi ar gyfer gwybodaeth ac ymchwil.
Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2003, roedd tirfesuryddion a
ffotograffwyr Simmons
Aerofilms ar y safle a chynhyrchwyd cynlluniau manwl a golygon
yn sgîl eu hymdrechion o'r Castell a'r Adfeilion Hanesyddol. Fe'u
cynhyrchwyd mewn fformat digidol i'w cyhoeddi ar gronfa-ddata TG yr
Awdurdod, a bydd yr wybodaeth ar gael yn fewnol yn ogystal ag yn
gyhoeddus.
Rhan gyntaf strategaeth ailddatblygu Parc Margam sy'n cael ei
datblygu ar hyn o bryd fydd adnewyddu'r Castell, ac awgrymwyd bod y
safle o amgylch caer Oesoedd Haearn Mynydd y Castell a Chastell
Margam o gyfnod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys nifer o
olion gweithgaredd dynol. Yn ystod Ionawr 2004, gofynnwyd i'r
arbenigwyr geoarchaeolegol Terra Nova Cyf i
gyflwyno arolwg
geoffisegol o lawnt ogleddol Castell Margam i weld a oedd
unrhyw nodweddion archaeolegol o dan yr wyneb cyn y gellir
penderfynu ar unrhyw gynigon. Defnyddiwyd dwy dechneg geoffisegol -
torch drydanol a magnetometrig. Gall y magnetomedr ddatgelu nifer
helaeth o olion archaeolegol fel pyllau hynafol, ffosydd, odynau,
ffyrnau a nodweddion metaleg fel pibellau dwr.
Roedd disgwyl i'r arolwg torch drydanol ddod o hyd i nodweddion
fel ffosydd, cwteri a phyllau a hen lwybrau a waliau.
Roedd y canlyniadau'n gyffrous ac wedi cadarnhau olion a
gladdwyd sy'n dangos cryn dipyn o dystiolaeth am y gweithgaredd
dynol a fodolai ar y safle. Er bod y rhan fwyaf o'r nodweddion yn
perthyn i fywyd yn y castell rhwng y 18G a'r 19G, gall rhai fod yn
perthyn i gyfnod cynharach ac yn dangos y potensial am arolygu
gweddill y parc.