Skip over navigation Search Help
NPT.GOV.UK - Croseo i Gastell-nedd Port Talbot ar-lein

Hamdden a Thwristiaeth

Parc Gwledig Margam

Parc Gwledig Margam

Wedi'i leoli mewn 1000 erw o barcdir hyfryd, mae Parc Margam yn cynnig harddwch, hanes, bywyd gwyllt ac ystod eang o gyfleusterau sy'n ei wneud yn un o'r diwrnodau gorau i'r teulu cyfan yng Nghymru. Mae 'na syrpreis o amgylch pob cornel, o'r Orendy ysblennydd 18fed Ganrif, Ty Fictoraidd enfawr mewn arddull Tudur- Gothig, Ty Siapter y 12fed Ganrif i'r Casgliad Ffiwsia unigryw a'r gerddi hanesyddol newydd a adferwyd o amgylch y Castell, y Gerddi Mynachaidd a Theras yr Orendy.

Mae'r Parc yn cynnwys teithiau cerdded hyfryd, y rheilffordd gul newydd sy'n arwain at le chwarae antur i blant, y ganolfan achub adar rheibus, llwybr fferm a chornel anifeiliaid anwes, y pentref Tylwyth Teg, pysgota a gwelir y casgliad gorau o geirw yng Nghymru. Y Ganolfan Ymwelwyr ar Libart y Castell yw'r man cychwyn ar gyfer y teithiau cerdded drwy'r parcdiroedd a cheir siop anrhegion hefyd a Phantri Charlotte i'r rhai nad ydynt yn cael picnic.

Gobeithio bydd y wybodaeth ar ein gwefan o ddiddordeb i chi gan ddwyn perswâd arnoch i ymuno â ni a rhannu'r awyrgylch hyfryd hwn.


'Nol i ben y dudalen

Gwerthuso’r Dudalen hon | Amodau a Thelerau | Datganiad Preifatrwydd | Chwilio | Cymorth
Link to Directgov – widest range of government information and services online

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk