Y Rheilffordd Gul

Mae Monty Trên Margam wedi cael estyniad i’w draciau!

Eleni o adeg y Pasg ymlaen byddwch chi’n gallu gadael i’r trên gymryd y straen wrth iddo eich cludo ar daith o’r maes parcio i’r castell. Mae’r daith yn eich tywys drwy dirwedd hanesyddol Parc Margam. Mwynhewch olygfeydd hyfryd ger y Pwll Newydd gan fod y traciau’n rhedeg wrth ochr y dŵr a thros yr argae. Mwynhewch yr olygfa hyfryd ar draws y llyn i’r Castell a’r waliau teras yn y pellter wrth i chi nesáu at orsaf y castell.

Mae 'Castell Margam' yn locomotif diesel sy’n rhedeg ar lein gul 24". Mae ganddo ddau gerbyd wedi’u gorchuddio, bob un yn dal 24 o bobl, ac mae cyfleusterau i gadeiriau olwyn fynd ar y trên.

Pris taith ar y trên yw £2.25 i Oedolion a £1.25 i Blant/Henoed (taith un ffordd yw hon)

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau