Yr Orendy

Yr Orendy

Mae Orendy'r 18fed Ganrif yn ganolbwynt dramatig ac ysblennydd i'r gerddi, ac o'i flaen ceir teras hyfryd gyda thair ffynnon addurniadol yn cynnwys dolffiniaid wedi plethu o amgylch ei gilydd a chregyn bylchog.

Yn 1973 pan feddiannwyd y Stad gan y perchnogion presennol, roedd yr Orendy mewn stad ofnadwy. Pedair blynedd yn ddiweddarach, gorffennwyd adfer yr adeilad hardd hwn ac fe'i agorwyd gan y Frenhines yn ystod ei Blwyddyn Jiwbilî Arian.

Statue

Fe'i adeiladwyd o 1786 i 1793 gan Thomas Mansel Talbot gan ddefnyddio dyluniad Anthony Keck, mae wedi'i gofrestru fel adeilad Gradd I ac fel un o'r adeiladau clasurol gorau yng Nghymru ac mae'n 275 troedfedd o hyd felly dyma'r Orendy hiraf ym Mhrydain.

Heddiw mae'r Ystafell Wledda yn cynnal priodasau, cynadleddau a derbyniadau. Defnyddir rhan ohono o hyd fel Orendy yn ogystal â'i ddefnyddio ar gyfer arddangosiadau.

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau