Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad

Dyddiadur Ceidwad Cefn Gwlad
Ionawr Beth sydd o gwmpas yn Ionawr?
Mae'r ymgyrch i oroesi yn codi gêr wrth i fwyd ddod yn brinach ac yn anos ei ganfod. Gydag ond ychydig o ddail i'w gweld mae'r tirwedd sy'n ymddangos yn ddiffrwyth, yn gallu eich synnu ag arwyddion o fywyd.
Chwefror Beth sydd o gwmpas ym mis Chwefror?
Pan fydd yr haul yn tywynnu gallech dybio bod y gwanwyn wedi cyrraedd, ond mae'n gallu cilio yr un mor gyflym. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf mae tywydd gwaethaf y gaeaf wedi dod yn ystod mis Chwefror. Mae'n werth gwneud y mwyaf o gamau ansicr Chwefror, wrth i'r gwanwyn nesáu'n raddol, gyda blodau sy'n blodeuo'n gynnar ac adar sy'n nythu'n gynnar yn arwain y ffordd.
Mawrth Er bod brath terfynol i'r gaeaf yn aml, rydym bellach yn gadael misoedd mwyaf diflas y flwyddyn
Mae blodau'r gwanwyn yn agor ac mae ieir bach yr haf yn ymddangos o'u gaeafgwsg. Gwrandewch am y teloriaid cyntaf, bwrlwm cyfoethog y telor penddu neu gân ddigamsyniol y dryw felen. Mae'n ddechrau blwyddyn newydd y naturiaethwr o'r diwedd.
Ebrill Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd!
Mae'r llystyfiant yn newid o frown a llwyd y gaeaf i wyrdd iraidd.
Mehefin Mae'n fis prysur iawn ym Mharc Gwledig Margam
Dyma'r mis pan fydd ein hyddod brith a'n ceirw cochion yn rhoi genedigaeth. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu geni o ail wythnos Mehefin ymlaen.
Hydref Y mis hwn yw mis y concyrs!!!
Wrth gasglu concyrs, cymerwch ychydig yn unig. Mae bwyd yr hydref fel concyrs a chastanwydd melys yn fwyd hanfodol i’r ceirw yn ystod y tymor hwn.
Tachwedd Mis y Madarch
Mae’r coedydd a’r glaswelltiroedd yn llawn madarch, bwyd y boda a ffyngau eraill o bob siâp a maint.
Rhagfyr Mae mis Rhagfyr yn gallu bod yn fis gwlyb ond beth am wisgo'ch welintons, a pha donig well sydd ar gyfer y Nadolig na mynd am dro yn y parc ym mis Rhagfyr
Mae heidiau o linosod yn bwydo, llwydrew yn cuddio yng nghysgodion y coetir a lliwiau gwelw prynhawn mis Rhagfyr fel cyferbyniad llonydd i dinsel a phapur lapio.
Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 763333 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau