Rheolau Cefn Gwlad
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi
ceisio sicrhau bod yr ystâd ar gael i bobl ei defnyddio a'i mwynhau
ac mae'n gofyn i chi barchu'r parc a gadael y lle hardd hwn yn yr
un cyflwr yr oedd ynddo pan gyrhaeddoch.
Cŵn
Dylid cadw cŵn dan reolaeth lwyr a'u hatal yn effeithiol rhag
poeni unrhyw berson a rhag poeni neu aflonyddu unrhyw anifail.
Dylid cadw eich ci ar dennyn yng Ngerddi'r Orenfa
Sylwer bod biniau baw cŵn ar gael yn y maes parcio a'r Ganolfan
Ymwelwyr. Gofynnwch yng nghiosg y maes parcio am fagiau baw
cŵn.
Sbwriel
Rydym yn annog ein hymwelwyr i fynd â'u sbwriel adref gyda hwy -
gall niweidio ein hanifeiliaid a'r bywyd gwyllt. Rydym yn darparu
biniau baw yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd.
Gatiau a chamfeydd
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau pob gât ar ôl ei defnyddio a
pheidiwch â chroesi ffensys na waliau oni bai bod gatiau ar
gael.
Deunydd Planhigion
Ni ddylid tynnu nac ymyrryd ar unrhyw flodau, pennau hadau,
ffrwythau na deunyddiau neu labeli planhigion.
Tanau
Gwaherddir cynnau tanau.
Mae safleoedd barbeciw ar gael. Cysylltwch â'n swyddfa am
fanylion.
Cyrsiau dŵr a llynnoedd
Ni chaniateir nofio mewn unrhyw un o'r llynnoedd na'r cyrsiau
dŵr.
Gall fod rhwystrau dan y dŵr neu gerhyntau sy'n gallu bod yn
beryglus.
Pysgota
 thrwydded yn unig - gellir prynu trwyddedau yn swyddfeydd
rheoli'r parc neu yng nghiosg y fynedfa.
Mynediad
Gellir gosod rhwystrau o bryd i'w gilydd i rai ardaloedd pan fo
digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yno.
Llwybrau
Heblaw am hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau goddefol yw
llwybrau'r parc ac mae rheolwyr y parc yn cadw'r hawl i gau llwybr
o bryd i'w gilydd.
Beiciau a cherbydau
Cyfyngir y rhain i ffyrdd a llwybrau penodol yr ystâd.
Ni chaniateir beicio yng Ngerddi'r Orendy.
Cerbydau a pharcio
Caniateir parcio mewn mannau parcio penodol yn unig.
Dim ond cerbydau â chaniatâd sy'n gallu gyrru o fewn y parc.
Bydd goleuadau rhybudd ar waith bob tro ac mae'n rhaid i gerbydau
gadw at y cyfyngiad cyflymder 15mya.
Mae ychydig o leoedd parcio i'r anabl yng nghefn y castell ar
gyfer Deiliaid Bathodynnau Glas yn unig. Gofynnwch yng nghiosg y
maes parcio am fanylion.
Sŵn
Ystyriwch y bobl eraill sy'n defnyddio'r parc a cheisiwch leihau
unrhyw sŵn i lefel dderbyniol.