Teithiau
Cerdded
Mae 800 erw Parc Margam yn darparu'r lleoliad perffaith ar gyfer
cerdded yng nghefn gwlad. Gallwch fynd am dro ar ôl cinio dydd Sul
neu heicio ar hyd Ffordd Coed Morgannwg i Barc Gwledig Parc Fforest
Afan, ein parc gwledig cyfatebol yng Nghwm Afan.
Mae croeso i chi grwydro ac archwilio ein parc. Os yw'n well
gennych ddilyn llwybr tywysedig mae pedwar opsiwn ar gael. Mae pob
un â chôd lliw gwahanol ac yn dechrau nid nepell o'r ganolfan
ymwelwyr.
Llwybr y Pulpud
Cyfeirbwynt glas 2.25 milltir. Rhai mannau serth
Bydd y llwybr hwn yn eich tywys at bwynt gweld y pulpud, mae'r
olygfa o'r fan hon yn werth y dringo serth, ar ddiwrnod clir gellir
gweld caeau a phentrefi Gogledd Gwlad yr Haf yn glir.
Llwybr y
Mynachod
Cyfeirbwynt Piws 2.5 milltir. Rhai mannau serth
Mae'r llwybr hwn yn eich tywys o amgylch cefn caer yr oes haearn
ac yna i fyny at weddillion yr Hen Eglwys. Byddwch yn pasio Llyn
Pysgod ar y daith gerdded hon felly cofiwch ddod â bara i fwydo'r
hwyaid!
Llwybr Cwm Philip
Cyfeirbwynt Gwyrdd 3.5 milltir. Dim ond ar gyfer pobl heini
Bydd y llwybr hwn yn eich tywys ar hyd ochr Cwm Philip. Mae'n
dilyn y llwybr hyd at bwynt uchaf y parc ac yn disgyn drwy gwm
coediog ar draws y ddaear isel.
Llwybr
Craig-y-lodge
Cyfeirbwynt Coch 1.5 milltir. Llwybr tonnog, hawdd
Llwybr pleserus drwy ardaloedd isel y parc.
Ar bob llwybr byddwch yn gweld rhai o geirw Margam yn enwedig ar
y llwybrau Pulpud a Chraig-y-lodge.
Mae llyfryn ar gael o giosg y fynedfa ac yn y siop, sy'n rhoi
esboniad o'r hyn sydd i'w weld wrth i chi gerdded ar hyd y
llwybrau
Ffordd
Coed Morgannwg
36 milltir: Parc Margam - Aberdâr - Merthyr
Mae Ffordd Coed Morgannwg yn daith gerdded ddramatig 36 milltir
(58km) gyda'r daith gyfan bron yn croesi bryniau'r Comisiwn
Coedwigaeth a pharc Parc Fforest Afan.
Mae'n dilyn llwybrau hynafol o darddiad Celtaidd ac yn pasio
nifer o aneddiadau yr Oes Efydd a Haearn. Ar hyd y daith ceir nifer
o fannau gwylio ardderchog gyda golygfeydd o Fannau Brycheiniog a
Môr Hafren. Yr uchaf o'r rhain yw ger Craig-y-Llyn, sydd 1968
troedfedd (600m) uwchben lefel y môr.
Gellir cerdded y daith gyfan mewn tua 16 awr, gan ddechrau naill
ai o Barc Coetir Gethin yn y gogledd (lle mae'n cysylltu â Llwybr
Taff) neu Barc Gwledig Margam yn y de lle mae'n cysylltu â Thaith
Gerddded Cefnffordd Ogwr. Gelir cerdded adrannau llai hefyd o Parc
Fforest Afan neu o barc Gwledig Cwm Dâr neu o un o feysydd parcio'r
Comisiwn Coedwigaeth ar hyd y daith.
Taith
Gerdded Cefnffordd Ogwr
13 milltir: Parc Margam - Mynydd y Gaer
Mae Taith Gerdded Cefnffordd Ogwr yn daith hyfryd 13 milltir
(21km) sy'n cysylltu Ffordd Coed Morgannwg yn y gorllewin ac yn
parhau fel taith gerdded Ffordd-y-Bryniau (Cefnffordd Taf Elai) yn
y dwyrain.
Gellir ei cherdded mewn diwrnod neu mewn darnau byrrach o barc
Gwledig Bryngarw neu o un o'r ddau faes parcio ar hyd y daith.
Ceir golygfeydd godidog o'r Cymoedd a Bro Morgannwg ar hyd y
daith ac ar ddiwrnodau clir gellir gweld bryniau Dyfnaint a Gwlad
yr Haf.
Gellir gweld tirluniau coediog hyfryd hefyd ger Coytrahen a
Blackmill. Ceir ystod eang o ddiddordebau hanesyddol ac
archaeolegol ar hyd y daith gan gynnwys tomenni claddu yr Oes Efydd
ar Mynydd-y-Gaer, a hen draphont y rheilffordd yn Blackmill sy'n
dyddio'n ôl i 1876.
Ac eithrio'r hawliau tramwy, mae'r llwybrau cerdded yn
ganiataol, cedwir yr hawl gan y parc i'w cau yn achlysurol.