Amgueddfeydd
Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Castell-nedd Port Talbot yn
gweithredu dwy Amgueddfa:
Amgueddfa
Castell-nedd
Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli ar lawr gwaelod Neuadd Gwyn,
Castell-nedd ac mae’n olrhain hanes Castell-nedd o’r cyfnod
cynhanesyddol, trwy gyfnod y ‘Nidum’ Rhufeunig i Gastell-nedd y
canoloesoedd ac ysblander Abaty Castell-nedd a adwaenwyd unwaith
fel ‘Yr Abaty Harddaf yng Nghymru gyfan’. Mae Castell-nedd y cyfnod
Fictoraidd a phwysigrwydd diwydiant trwm hefyd yn cael sylw yn yr
amgueddfa. Mae rhaglen amrywiol o arddangosfeydd dros dro yn cael
ei chynnal yn oriel yr Amgueddfa hefyd.
Mae Amgueddfa Castell-nedd ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn
o 10.00am tan 4.00pm – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
Mae Amgueddfa Castell-nedd ar gau am ginio rhwng 1.00 pm a 1.30
pm.
Am fanylion pellach ffoniwch (01639) 645726 yn ystod oriau
agor.
Cefn Coed Colliery
Museum
Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed, sydd wedi’i lleoli ger pentref
Creunant yng Nghwm Dulais pum milltir i’r gogledd o Gastell-nedd,
yn olrhain hanes cloddio ym mhwll glo Cefn Coed, sef y pwll glo
caled dyfnaf yn y byd ar un adeg. Cefn Coed oedd un o’r pyllau glo
mwyaf peryglus yng Nghymru, a rhoddwyd y llysenw ‘Y Lladd-dy’ iddo.
Adroddir stori’r miloedd o ddynion a weithiodd yng Nghefn Coed a
phyllau eraill ym mhyllau glo caled De-orllewin Cymru mewn geiriau
a lluniau yng Nghefn Coed

Mae Amgueddfa Cefn Coed ar agor bob dydd o Ebrill i Hydref o
10.30am – 5.00pm – mae mynediad am ddim i’r amgueddfa.
Mae croeso i ymweliadau grŵp yn ystod y gaeaf trwy drefnu ymlaen
llaw. Am fanylion pellach ffoniwch (01639) 750556 (gwasanaeth ffôn
ateb yn ystod y gaeaf).

Cefn Coed yw canolfan Swyddog Addysg yr Amgueddfeydd hefyd, sy’n
gallu cynnig cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau, yn
enwedig yng Nghyfnod Allweddol 2. Ffoniwch Clive Reed (Swyddog
Addysg) ar y rhif ffôn uchod am fanylion pellach.
