Gwasanaethau Cynllunio
Cyflwyniad
Prif nod y Gwasanaeth Cynllunio yw cynnal a gwella amgylchedd y
Fwrdeistref. Cyflawnir hyn drwy reoli datblygiadau newydd,
rheoleiddio lle caniateir datblygu, disgrifio polisïau’r Cynllun Datblygu sy’n sail i’r rheoleiddio,
ymgymryd â/hwyluso gwaith amgylcheddol amrywiol, ac amddiffyn a
hwyluso cynnal a chadw Hawliau Tramwy. Mae gan y Gwasanaeth
Cynllunio hefyd rôl hanfodol mewn mentrau amgylcheddol/cymunedol
ehangach, gan gydlynu Agenda Leol 21 a mentrau Stiwardiaeth
Amgylcheddol.
Rheoli
Datblygu
Rheoli’r holl ddatblygu newydd drwy benderfyniadau ar geisiadau
cynllunio. Mae’r adran yn annog trafodaethau cyn cais ac yn cynnig
cyngor anffurfiol ynghylch materion dylunio a defnyddio tir.
Rheoliadau Adeiladu
Rheoli adeiladu i sicrhau cyflawni
safonau iechyd a diogelwch wrth adeiladu a dulliau dianc a
chyflawni’r safonau gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni a mynediad
i’r anabl. Mae’r gwasanaeth yn cystadlu â’r sector preifat, ac, ar
wahân i waith ar gyfer darparu mynediad neu gyfleusterau i’r anabl,
mae’n codi ffïoedd. Mae’n rhaid i’r gwasanaeth gyllido ei hun dros
gyfnod o 3 blynedd.
Hefyd, mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am ymdrin ag Adeileddau
Peryglus o dan y Ddeddf Adeiladu a swyddogaethau o dan Ddeddf
Diogelwch Meysydd Chwarae.
Apelio a Gorfodi
Cynrychioli Cyngor y Fwrdeistref Sirol ym mhob Ymchwiliad
Cyhoeddus ynghylch cynllunio a gorfodi, a chydlynu’r gwaith o
baratoi tystiolaeth ar gyfer Gwrandawiadau ac Apeliadau Cyflwyno
Achosion Ysgrifenedig. Ymchwilio i bob cwyn ynghylch torri amodau
rheoli cynllunio a chymryd camau gorfodi lle bo hynny’n briodol a
monitro safleoedd datblygu, gan gynnwys safleoedd mwynau, yn amodol
ar yr amodau sydd ar gael.
Polisi
Datblygu
Cynhyrchu Cynllun Datblygu Unedol
sy’n disgrifio polisïau defnydd tir Cyngor y Fwrdeistref Sirol am y
15 mlynedd nesaf o ran strategaethau a dyrannu defnydd tir, ynghyd
ag arweiniad cynllunio atodol a chymryd rhan yn y gwaith o baratoi
arweiniad cynllunio rhanbarthol.
Ansawdd Amgylcheddol
Yr is-adran arweiniol ar gyfer cydlynu Agenda Leol 21 CNPT a
Stiwardiaeth Amgylcheddol, yn uniongyrchol drwy gynhyrchu
cynlluniau a strategaeth ac yn anuniongyrchol drwy sicrhau bod
is-adrannau eraill yr Awdurdod yn cyflawni eu dyletswyddau.
Is-adran arweiniol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer achredu dan EMAS.
Mae’r is-adran hefyd, gyda chymorth yr is-adran Cefn Gwlad, yn
gyfrifol am baratoi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth i’r
Fwrdeistref Sirol, a hwyluso a chydlynu perchnogaeth gymunedol ar y
Cynllun a’i weithredu.
Gweler hefyd: Polisi Amgylcheddol
Cefn Gwlad
Darparu gwasanaeth Hawliau Tramwy i amddiffyn y rhwydwaith rhag
rhwystrau, etc, ystyried newidiadau, addasiadau, cau a chofrestru
newydd i’r rhwydwaith, a chynnal a chadw’r rhwydwaith. Mae’r
is-adran hefyd yn darparu gwasanaeth rheoli coetiroedd a mynediad i
gefn gwlad drwy Coed Cymru gan roi arweiniad a
chyngor ar gynnal a chadw coetiroedd, creu coetiroedd newydd, a
datblygu marchnadoedd ar gyfer coed brodorol cynaliadwy lleol.