Hamdden a Thwristiaeth

Yma » Hafan » Hamdden a Thwristiaeth » Beth yw “Gwaith Chwarae...!” Castell-nedd Port Talbot?

Clipart: Boy jumping in leavesBeth yw “Gwaith Chwarae...!” Castell-nedd Port Talbot?

Pwy ydym ni?

Mae’r Tîm "Gwaith Chwarae...!" yn cynnwys dau Weithiwr Datblygu Chwarae Cymunedol, ac un Swyddog Datblygu Chwarae yn eu goruchwylio. Cyllidir y swyddi hyn gan grant Cymorth, sef arian oddi wrth Gynulliad Cymru a ddynodir i gefnogi plant a phobl ifanc o 0 i 25 oed. Rydym wedi’n lleoli yn Llansawel, Castell-nedd.


Beth rydym ni’n ei wneud?

Hyrwyddo Chwarae i blant a phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot...trwy drefnu a mynychu digwyddiadau arbennig a digwyddiadau cymunedol er mwyn codi proffil Chwarae a "Gwaith Chwarae...!" CNPT. Rydym yn rhoi gwybod i rieni a grwpiau cymunedol pa mor bwysig yw chwarae’n rhydd ac yn ddiogel i ddatblygiad plant.

Hyrwyddo chwarae anturus mynediad agored...trwy ddefnyddio sesiynau chwarae anturus lle gall plant chwarae yn eu hamgylchedd naturiol, sydd hefyd yn golygu chwarae yn y baw a’r glaw! Rydym yn mynd â phlant yn ôl i’r dyfodol, wrth chwarae yn yr un ffordd ag yr oedd eu rhieni’n arfer gwneud - codi pebyll, siglenni, cuddfannau, llithren faw, rampiau beic...a llawer mwy!

Darparu gweithgareddau chwarae:
  • Cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau – cynlluniau chwarae mynediad agored a gynhelir mewn neuaddau / canolfannau cymunedol ac ysgolion, wedi’u hanelu at blant rhwng 5 ac 11 oed.
  • Sesiynau dan oruchwyliaeth mewn llefydd chwarae – sesiynau chwarae mynediad agored lle mae gweithwyr chwarae’n ymweld â pharciau a llefydd chwarae, gan fynd â chyfarpar gyda nhw mewn fan.
  • Chwarae anturus ar ôl ysgol – sesiynau chwarae anturus a gynhaliwyd mewn parciau, llefydd chwarae a meysydd ysgol lleol ar ôl ysgol.

Rhoi cyngor ar chwarae y tu mewn a thu allan i’r ysgol...trwy ddarparu syniadau i staff a disgyblion ysgol ar gyfer chwarae yn ystod oriau ysgol a phwysleisio pwysigrwydd chwarae yn ystod ac ar ôl ysgol.

Cefnogi cymunedau i ddarparu cyfleoedd chwarae i blant yn eu hardal leol felly os oes gennych chi unrhyw syniadau neu os ydych angen cefnogaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion ar y dudalen cysylltu â ni.


Clipart: Boy stacking blocksGweithgor Chwarae

Is-grŵp o'r Bartneriaeth Plant yw’r Gweithgor Chwarae (GCh) ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau â diddordeb mewn chwarae. Nid yw’n gorff cyfansoddiadol ac nid oes ganddo unrhyw gyllid uniongyrchol, ond mae’n gwneud argymhellion i Grŵp Cyfeirio'r Bartneriaeth Fframwaith yn seiliedig ar gyngor ei aelodau. Mae’n ceisio defnyddio cyllid Cymorth, a elwir yn ‘grant chwarae’ ac sydd wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygu chwarae yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae’r GCh yn cwrdd bob deufis ac ar hyn o bryd mae ganddo dri gweithgor sy’n cwrdd pan fo angen. Un o’i brif dasgau oedd goruchwylio datblygu Polisi Chwarae CNPT i Strategaeth Chwarae. Mae’n cynnwys cynrychiolaeth o’r canlynol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Hamdden Cymunedol Celtic
  • Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc
  • Playright – Canolfan Adnoddau Chwarae
  • Interplay – chwarae integredig a chynhwysol
  • Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol CNPT
  • NCH Gweithredu dros blant
  • Chwarae Cymru

Polisi Chwarae

Mae Castell-nedd Port Talbot wedi cael Polisi Chwarae ers dros ddwy flynedd a datblygwyd y strategaeth ohono. Gellir ei gweld yma.


(Nodyn: i lawrlwytho'r ffeiliau, cliciwch ar y cysylltiadau uchod. Am fwy o fanylion ar sut i edrych ar ddogfennau PDF, cyfeiriwch at ein tudalennau Help.)


Strategaeth Chwarae

Mae drafft terfynol y strategaeth ar gael i’w weld a’i lawrlwytho yn y Saesneg ac yn y Gymraeg.


(Nodyn: i lawrlwytho'r ffeiliau, cliciwch ar y cysylltiadau uchod. Am fwy o fanylion ar sut i edrych ar ddogfennau PDF, cyfeiriwch at ein tudalennau Help.)

Caiff y strategaeth ei chyflwyno i amryw o rwydweithiau a fforymau a’i dosbarthu i bobl broffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant er mwyn cael eu barn. Fe’i cyflwynir wedyn er mwyn i'r Bartneriaeth Fframwaith a Chyngor CNPT ei chymeradwyo.

Back to top of page

Link to Directgov

Hawlfraint Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot 2008
Ffôn : 01639 686868 - Ffacs : 01639 763444 - e-bost : webmaster@npt.gov.uk
Achosion Brys yn yr Hwyr, ar y Penwythnos neu yn ystod y Gwyliau