Amodau A Thelerau Defnyddio'r Wefan
Cyffredinol
Mae Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot yn eiddo i Gyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac fe'i cynhelir ar
gyfer eich defnydd personol.
Mae cyrchu a defnyddio Ar-lein Castell-nedd Port Talbot sy'n
cynnwys yr amodau a'r telerau hyn yn golygu eich bod chi (y
defnyddiwr) yn derbyn yr amodau a'r telerau hyn, sy'n gweithredu
o'r dyddiad y byddwch yn defnyddio'r Wefan hon gyntaf. Cedwir yr
hawl gennym i ddiwygio'r amodau a'r telerau hyn ar unrhyw adeg heb
rybudd. Os bydd rhywbeth yn cael ei ddiwygio, bydd yr amodau a'r
telerau diwygiedig yn cael eu harddangos ar y tudalennau hyn a bydd
defnydd parhaol o Ar-lein Castell-nedd Port Talbot ar ôl diwygiad
o'r fath yn golygu eich bod yn derbyn yr Amodau a'r Telerau
newydd.
Datganiad Cyfrinachedd
Os ydych chi'n ddefnyddiwr gyda mynediad anhysbys, cyhoeddus a
chyffredinol nid yw Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot yn
storio nac yn cadw gwybodaeth bersonol, dim ond yn cofnodi
cyfeiriad IP y defnyddiwr sy'n cael ei gydnabod yn awtomatig gan y
gweinyddwr: nid ydym yn defnyddio 'cookies' i gywain gwybodaeth
defnyddwyr. Bydd y system yn cofnodi cyfeiriad eich e-bost a
gwybodaeth arall os byddwch yn caniatáu i ni ei defnyddio. Bydd yn
cael ei thrin yn briodol ac yn gyfrinachol. Efallai bydd yn cael ei
defnyddio ar gyfer adolygiad mewnol ac yn eich hysbysu am
ddiweddariadau i'r Wefan. Mae'r datganiad cyfrinachedd yn
berthnasol i Wefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot yn unig sef
www.npt.gov.uk. Nid yw'r datganiad hwn yn
diogelu cysylltiadau o fewn y safle hwn â Gwefannau eraill.
* nid ydym yn defnyddio 'cookies' ar gyfer casglu gwybodaeth
defnyddwyr.
Ymwadiad
Mae Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot a deunyddiau sy'n
perthyn i wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot (neu wybodaeth, cynnyrch a
gwasanaethau trydydd person), yn cael eu darparu 'fel y maent' heb
unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a wnaed a heb warant o
unrhyw fath p'un ai wedi'i fynegi neu'i olygu, gan gynnwys ond heb
ei gyfyngu i'r gwarantau ansawdd boddhaol, ffitrwydd at bwrpas
penodol, tor-cyfraith, cysondeb, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn
gwarantu bydd y swyddogaethau sy'n cael eu cynnwys yn y deunyddiau
ar y safle hwn heb amhariad neu wallau, y bydd diffygion yn cael eu
cywirio, nac y bydd y safle hwn neu'r gweinydd heb feirws neu'n
cyflwyno swyddogaeth, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni
fyddwn yn atebol o gwbl am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys,
heb gyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu o ganlyniad,
neu unrhyw golled neu ddifrod sy'n codi wrth ddefnyddio neu golli'r
defnydd o ddata, neu elw, a geir mewn perthynas â Gwefan Ar-lein
Castell-nedd Port Talbot neu mewn cysylltiad â hi.
Cysylltiadau â Gwefannau
Eraill
Er hwylustod i chi , mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cysylltiadau
'hypertext' o'r Wefan hon â Gwefannau eraill sy'n cael eu
gweithredu gan eraill yn berthnasol ac yn darparu gwybodaeth
ddefnyddiol.
Os byddwch yn defnyddio unrhyw un o'r Gwefannau cysylltiedig hyn
byddwch yn gadael Gwefan Ar-lein Castell-nedd Port Talbot a byddwch
yn gwneud hyn ar eich perwyl eich hunan: rhaid i chi gymryd unrhyw
fesurau angenrheidiol i ddiogelu yn erbyn feirysau a/neu gyrff
llygrol/ dinistriol eraill.
Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y Gwefannau cysylltiedig hyn na
dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a ddarparwyd ynddynt ac nid ydym yn
atebol (yn gyfreithiol nac fel arall) am unrhyw golled neu ddifrod
gan gynnwys, heb atebolrwydd, colledion neu ddifrod anuniongyrchol
neu o ganlyniad, a geir neu mewn cysylltiad â'r defnydd o unrhyw un
o'r Gwefannau cysylltiedig hyn.
Nid yw cynnwys cysylltiadau â Gwefannau eraill yn golygu mewn
unrhyw ffordd, ein bod yn cymeradwyo'r Gwefannau hyn.
Amddiffyn
rhag Feirysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau ar bob
cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth rhedeg rhaglen gwrth-feirws
ar yr holl ddeunyddiau sy'n cael eu lawrlwytho o'r Rhyngrwyd. Ni
allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu
ddifrod i'ch data neu i'ch system gyfrifiadurol sy'n gallu digwydd
tra'n defnyddio deunyddiau a dderbyniwyd o'r Wefan hon.
Hawlfraint
Mae'r deunyddiau sy'n cael eu cynnwys ar y Wefan hon, gan
gynnwys heb gyfyngiad, unrhyw destun, logo, eiconau, ffotograffau a
gwaith celf arall yn ddeunyddiau hawlfraint i Gyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot oni noder yn wahanol. Gellir
defnyddio'r deunyddiau hawlfraint hyn heb ein caniatâd os na
fyddant yn cael eu hatgynhyrchu, eu haddasu na'u defnyddio ar gyfer
unrhyw fudd ariannol. Gellir gwneud defnydd masanachol yn unig o'r
deunydd hawlfraint hwn gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig gennym
ni.
Nid yw caniatâd defnyddio deunyddiau hawlfraint ar y Wefan hon
yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sy'n hawlfraint i drydydd person:
rhaid derbyn caniatâd y trydydd person i ddefnyddio eu deunyddiau
hawlfraint nhw.
Dylai ceisiadau i ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau hawlfraint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gael eu cyfeirio
at Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, Canolfan Ddinesig, Port
Talbot, SA13 1PJ.
Ansawdd y
Data
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn
ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth o'r ansawdd uchaf ar y Wefan hon a
gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir a
chyfoes. Os ydych yn meddwl bod unrhyw wallau neu hen wybodaeth ar
y wefan hon cysylltwch â'r Gwefeistr ar yr e-bost canlynol
webmaster@npt.gov.uk
Awdurdodaeth Gyfreithiol
Bydd yr amodau a'r telerau hyn yn cael eu rheoli a'u dehongli yn
unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadlau a geir dan
yr amodau a'r telerau hyn yn amodol ar awdurdodaeth unigryw
llysoedd Cymru a Lloegr.
Cydnabyddiaeth o Hawlfraint
Mae rhai deunyddiau a gyhoeddwyd ar y dudalen hon wedi'u cymryd
o Wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ac maent yn ddeunyddiau a ddiogelir gan Hawlfraint y Goron.