Canllaw Ymwelwyr
Y lle delfrydol
i brofi'r atyniadau ac i grwydro drwy harddwch naturiol ardal sy'n
ymestyn o Fannau Brycheiniog i draethau euraidd Arfordir De
Orllewin Cymru, boed hynny am ddiwrnod o ymweliad cyffrous neu am
wyliau byr hamddenol.
Darganfyddwch drosoch chi'ch hun harddwch a llonyddwch ei hamryw
o atyniadau o 'Wlad y Rhaeadrau' yng Nghwm Nedd i'r rhwydwaith o
lwybrau cerdded a beicio yng Nghwm Afan a adnabyddir yn lleol fel
'Y Swistir Fach'.
Mae'r parciau cefn gwlad rhagorol a'r amrywiaeth eang o safleodd
hanesyddol ac amgueddfeydd a geir yng Nghastell-nedd Port Talbot yn
gyfle i brofi treftadaeth diwydiannol a diwylliannol tra diddorol
yr ardal.
Ychwanegwch at yr uchod atyniadau dan do megis yr Aquadome neu'r Afan Lido,
pwll hamdden newydd mwyaf cyffrous Prydain, theatrau a sinemau, ac
fe wyddoch fob bob amser rhywbeth i'w weld ac i'w wneud mewn ardal
sy'n syndod o wahanol.
Er mwyn gwneud
y gorau o'ch amser, galwch heibio i un o'n Canolfannau
Croeso lle cewch groeso cynnes. Gall y Ganolfan neilltuo
amrywiaeth o lety o ansawdd ar eich cyfer, rhoi rhestr o
ddigwyddiadau a chyfleusterau lleol i chi, neu'ch helpu i
gynllunio'ch diwrnod.
Felly mwynhewch eich ymweliad a Chastell-nedd Port Talbot a
gobeithio y dewch yn ol atom cyn bo hir.