Cymorth Ariannol / Hawliau Lles
Y System Fudd-daliadau
Ar yr olwg gyntaf mae’r system fudd-daliadau’n gallu edrych fel
penbleth eithriadol o gymhleth, yn cynnwys dros ddeugain o
fudd-daliadau gwahanol – sydd ar adegau’n gwrth-ddweud ei gilydd.
Ar yr ail olwg, mae’n benbleth cymhleth o hyd. Eto i gyd mae modd
magu dealltwriaeth gyffredinol o’r system heb orfod troi’n
arbenigwr amser llawn ar fudd-daliadau! Drwy wneud hyn, gall
gweithwyr helpu eu clientiaid mewn ffordd ymarferol, drwy sylwi ar
gais neu benderfyniad posibl y gellir ei herio!
Budd-daliadau sy’n destun prawf modd
Mae budd-daliadau sy’n destun prawf modd - sydd hefyd yn cael eu
galw’n rhai sy’n “gysylltiedig ag incwm’ - yn gorfod mynd drwy
brawf ychwanegol ar ben unrhyw feini prawf eraill fel bod yn
analluog neu ar gael i chwilio am waith ac wrthi’n chwilio am
waith. Mae hyn yn golygu caiff swm y budd-dal ei effeithio gan
unrhyw incwm neu gynilion eraill sydd gennych chi, partner
gwahanrywiol neu unrhyw blant. Mae budd-daliadau sy’n destun prawf
modd naill ai’n talu budd-dal arian parod (e.e. Cymhorthdal Incwm)
neu’n gallu helpu tuag at rai treuliau penodol (e.e. Budd-dâl Tai i
dalu’r rhent neu grantiau/benthyciadau’r Gronfa Gymdeithasol i
brynu popty).
Budd-daliadau nad ydynt yn destun prawf modd
Mae’r categorïau a’r isadrannau a nodir yn y tabl yn berthnasol
i fudd-daliadau nad ydynt yn destun prawf modd yn unig.
Budd-daliadau Cyfrannol
Mae rhai budd-daliadau nad ydynt yn destun prawf modd yn rhai
cyfrannol – sy’n golygu bod yr hawl i geisio yn dibynnu a ydych
wedi talu (neu gael eich credydu) drwy gyfraniadau Yswiriant
Gwladol yn y blynyddoedd priodol. Mae rhai o’r budd-daliadau hyn
(e.e. Pensiwn Ymddeol) yn cael eu heffeithio gan gyfraniadau dros
eich bywyd gweithio, eraill gan gyfraniadau mewn blynyddoedd treth
penodol cyn dyddiad eich cais. Gweler y nodyn o dan bob budd-dâl am
fanylion pellach. Mae budd-daliadau eraill nad ydynt yn destun
prawf modd (a phob budd-dâl sy’n destun prawf modd) yn rhai
anghyfrannol.
Budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd
Mae’r budd-daliadau hynny nad ydynt yn destun prawf modd sydd
wedi’u dynodi gyda # yn y tabl - h.y. yr holl fudd-daliadau
cyfrannol a rhai o’r budd-daliadau anghyfrannol - yn gorgyffwrdd
â’i gilydd. Mae hyn yn golygu na ellir eu talu ar yr un pryd. Os
ydych yn gymwys i dderbyn mwy nag un - e.e. rydych yn ŵr gweddw
neu’n wraig weddw, rydych dros oed pensiwn ac yn gofalu am
berthynas anabl - cewch eich talu hyd at werth pa fudd-dâl bynnag
yw’r uchaf yn unig. Gallai eich llyfr taliadau gynnwys enwau un neu
fwy o fudd-daliadau o hyd, ond bydd un budd-dâl yn ategu gwerth y
budd-dâl uchaf sy’n gorgyffwrdd. Mae’r budd-daliadau hyn hefyd yn
cael eu galw’n fudd-daliadau “yn lle enillion”, gan adlewyrchu’r
syniad mai’r nod yw rhoi incwm sylfaenol yn lle’r incwm a gollir
drwy waith amser llawn a bod angen gwneud hyn unwaith yn unig.
Byddwch yn cadw “hawl sylfaenol” o hyd i unrhyw fudd-dâl, na chaiff
ei dalu i chi oherwydd y rheolau gorgyffwrdd. Gall hyn helpu drwy
eich gwneud yn gymwys i gael premiymau ychwanegol wrth i
fudd-daliadau sy’n destun prawf modd gael eu cyfrifo.