Apelio eich Prisio
Apeliadau Ar-lein
Apelio ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel a gellir ei wneud drwy ddefnyddio'r wefan VOA.
Rhowch Apêl ar-leinApeliadau Post
Cwblhau ffurflen apêl (a adwaenir hefyd fel cynnig i newid y rhestr trethi) a'i hanfon i'r cyfeiriad canlynol:
- Tribiwnlys Prisio Cymru,
22 Gold Tops,
Casnewydd
NP20 4PG - Ffôn: 01633 255003
Amgylchiadau y gallwch gyflwyno apêl
- mae'r gwerth trethadwy a nodir yn y Rhestr Trethi newydd yn anghywir
- mae'r gwerth trethadwy a nodir ar Restr Trethi am y tro cyntaf yn anghywir
- cafwyd newid sylweddol mewn amgylchiadau (e.e. cafodd rhan o'r adeilad ei dymchwel)
- dylai eich eiddo gael ei drethi fel mwy nag un eiddo (neu dylai sawl eiddo gael ei drethi fel un eiddo)
- mae penderfyniad gan Dribiwnlys Prisio, Tribiwnlys Tir neu lys wedi cael effaith ar eich gwerth trethadwy
- mae newid i'ch gwerth trethadwy a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio'n anghywir
- mae gwall ar y Rhestr Trethi (e.e. gwall yn y cyfeiriad)
- dylai eich eiddo gael ei ddileu o'r Rhestr Trethi
- cafwyd newid rhwng defnydd domestig ac annomestig
- gallwch gyflwyno eich apêl ar unrhyw adeg yn ystod oes y Rhestr Trethi.
- os yw eich apêl yn seiliedig ar benderfyniad Tribiwnlys Prisio, Tribiwnlys Tir neu lys arall, gallwch gyflwyno apêl hyd at 6 mis ar ôl cyflwyno'r Rhestr Trethi newydd (ar yr amod bod hyn o fewn 6 mis i'r penderfyniad perthnasol).
- os yw eich apêl yn llwyddiannus, bydd y newid i'ch gwerth trethadwy ar waith o ddyddiad y newid mewn amgylchiadau a ysgogodd yr apêl.
Y Broses Apelio
Os nad yw'r Swyddog Prisio'n cytuno â'ch apêl neu os nad yw'n cael ei datrys ar ôl chwe mis, caiff ei chyfeirio i'r Tribiwnlys Prisio lleol er mwyn iddo wneud penderfyniad.
Os ydych chi neu'r Swyddog Prisio'n fodlon ar benderfyniad y Tribiwnlys Prisio, gallwch gyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Tir o fewn pedair wythnos.
Rhaid i chi barhau i dalu eich bil trethi wrth aros am benderfyniad ar eich apêl. Byddwn yn ad-dalu unrhyw ordaliad, ynghyd â llog (os yw'n berthnasol), pan fydd yr apêl wedi'i datrys.
Os ydych yn penderfynu cymryd cyngor ynghylch a ddylech apelio yn erbyn eich gwerth trethadwy neu beidio, byddem yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu ag asiant trethi ag enw da. Ceir awgrymiadau ar sut i ddewis asiant proffesiynol ar y dudalen Trethi Busnes.