Debyd Uniongyrchol
Diolch i chi am gofrestru i dalu eich Treth Gyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol.
I osod eich debyd uniongyrchol dros y ffôn, neu os ydych yn cael unrhyw broblemau yn gosod hyn i fyny ar-lein, ffoniwch (01639) 686 188 a bydd aelod o'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid yn hapus ei osod i chi.
Mae pob un o'r meserau diogelu a gwarantau arferol yn berthnasol. Ni all unrhyw newidiadau yn y swm, dyddiad neu’r amledd cael ei wneud heb roi gwybod i chi o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn i'ch cyfrif gael ei ddebydu.
Mewn achos o gamgymeriad, mae gennych hawl i gael ad-daliad ar unwaith gan eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu.
Mae gennych yr hawl i ganslo Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg yn syml drwy ysgrifennu at eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu, gyda chopi i ni.
Bydd y ffurflen hon yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion banc gennych wrth law.
Dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon.Thank you for registering to pay your Council Tax by Direct Debit.