Am Amlosgfeydd
Am Amlosgfeydd
Mae Amlosgi'n cael ei gydnabod gan Awdurdodau lechyd Cyhoeddus fel y dull mwyaf glân o waredu'r meirw. Nid oes ganddo unrhyw arwyddocâd crefyddol ac felly wrth ei ddefnyddio nid yw'n gwrthdaro â Dysgeidiaeth Gristnogol a chredoau eraill.
Mae'r gweithdrefnau a ddilynir yn syml ac fel arfer yn uniongyrchol. Bydd y Trefnydd Angladdau, ynghyd â'r Uwcharolygydd a'r Cofrestrydd, fel arfer yn gwneud y trefniadau ar eich rhan.
Wrth gyrraedd, bydd y galarwyr yn ffurfio'r cynhebrwng dan y porte cochere sy'n darparu peth cysgod rhag y tywydd garw. Maen digon o le i barcio ger y Capel ar gyfer perthnasau a ffrindiau sy'n teithio i'r Amlosgfa mewn ceir preifat.
Mae'r Prif Gapel (sy'n eistedd 150) ar gael gyfer pob enwad, ac mae Llyfrau Gwasanaeth ynghyd â detholiad cynhwysfawr o emynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu darparu'n arbennig i'w defnyddio yn yr Amlosgfa. Bydd yr Organydd yn gallu chwarae cerddoriaeth addas a ddewiswyd neu emynau trwy drefniant. Gellir chwarae dewisiadau cerddorol penodol hefyd drwy ddefnyddio C.D. neu gaset.
Am y rhan gyntaf o'r gwasanaeth bydd yr arch yn gorwedd ar yr elor ym mlaen y Capel. Yn ystod y gladdedigaeth caiff ei gostwng islaw lefel y llechen siarcol/las a gellir talu'r parch olaf i'r meirw wrth i'r galarwyr a'r ffrindiau adael drwy'r allanfa gerllaw.
Gellir trefnu capel teulu sy'n eistedd 12 o alarwyr er mwyn talu'r deyrnged olaf dawel a phreifat lle na all nifer fawr o bobi ymgynnull. Mae cyfleusterau'r capel bach hwn o'n profiad ni wedi rhoi cysur ywchwanegol.
Yn dilyn y gwasanaeth yng Nghapel yr Amlosgfa, gall y galarwyr naill ai ddychwelyd i'w ceir neu cael eu tywys gan yr Uwcharolygydd (neu ei gynorthwywyr) i'r lle y gosodwyd y blodau ar hyd ffordd dan do yr Ardd Orffwys. Pan fydd y llwch yn cael ei wasgaru ym Margam, gall y teulu sy'n mynychu hefyd gadamhau'r cyfarwyddiadau a roddwyd yn barod neu ystyried eu dewis o lawnt neu ba adran o'r coetir er mwyn gwasgaru'r llwch (gweler cynllun yr Ardd).
Mae'r Gerddi Coffa yn rhan o barcdir naturiol ar y safle 17 erw. Drwy gynnal a chadw nifer o goed derw a llwyfenni ysblennydd ynghyd â rhododendronau enfawr, maent yn darparu lleoliad hyfryd o harddwch naturiol. Cafodd yr ardal hon ei gwella drwy ychwanegu rhagor o goed, llwyni a bylbiau sydd mewn harmoni â gweddill y lleoliad.
Caiff y llwch ei gladdu (h.y. claddu'n rhydd) yn y darn a ddewiswyd ac mae'r weithdrefh hon yn rhoi cysur arbennig i nifer oherwydd rhwng y llwyni a'r blodau, y coed a'r adar ceir gweddillion aelodau o'r teulu'n cael eu dychwelyd i'r ddaear o'r lie y daethant. Rhaid atgoffa pobi na all y llwch gael ei adfer na'i symud ar ôl claddu.
Fel arall, gall y llwch gael ei gludo heb unrhyw broblem na chost fawr i Amlosgfa, Mynwent neu Mynwent Eglwys arall i'w gladdu os dymunir gwneud hynny. Mae dewis o yrnau a chasgedi ar gael o Swyddfa'r Amlosgfa; gellir trefnu pacio a phostio hefyd os bydd angen.
Gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i ymweld â'r Amlosgfa yn ystod oriau gwaith lle gallant edmygu'r harddwch a'r ymdeimlad o heddwch sydd yn y Capeli a'r Gerddi Coffa. Gellir archwilio'r Amlosgfa drwy apwyntiad gyda'r Uwcharolygydd. Mae Diwrnodau Agoed yn cael eu trefnu. Fe geir manylion pellach oddi wrth Swyddfa yr Amlosgfa.