Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Byngalos

Byngalos

  1. Gall byngalos achosi problemau arbennig wrth geisio dylunio estyniadau derbyniol. Lle byddai estyniad un llawr to fflat yn dderbyniol weithiau ar dŷ dau lawr, anaml iawn y byddai'n dderbyniol ar fyngalo. Wrth ystyried estyn byngalo, felly, dylid ystyried estyn y to mewn arddull sydd naill ai'n cydweddu â'r to presennol neu ei ategu.
  2. Dull arall fyddai ystyried newid gofod y to. Mae ymarferoldeb y dull hwn yn dibynnu'n rhannol ar y dull adeiladu. Dylid ceisio'r cyngor technegol perthnasol cyn dechrau ar y gwaith

Lefelau

Lle nad oes digon o uchdwr yn y gofod to presennol hwyrach y byddai'n syniad codi'r to. Byddai hyn fel arfer yn cael effaith andwyol ar res neu grŵp o fyngalos ac fel arfer rhoddir ystyriaeth i hyn yn unig o ran adeiladau ar eu pennau eu hunain neu'r rheiny sydd ar lefelau gwahanol a hynny'n cuddio'r effaith weledol.

Diagram of acceptable and unacceptable roof space conversions