Beth gallaf ei fenthyca?
Gall aelodau'r llyfrgell fenthyg hyd at 10 eitem ar y tro.
Llyfrau
Gallwch fenthyg hyd at 10 llyfr am dair wythnos ar y tro.
DVDs
Mae gan rai o'n llyfrgelloedd gasgliadau DVDs. Os nad oes gan eich llyfrgell leol gasgliad DVDs, gallwch fenthyg DVDs drwy eu harchebu a'u casglu o lyfrgell o'ch dewis.
Gallwch fenthyg hyd at 3 DVD ar y tro.
Cost benthyg DVD am wythnos yw £2.00.
Mae DVDs i blant yn costio £1.00 yr wythnos i'w benthyg.
Cerddoriaeth
Mae gan lyfrgelloedd Castell-nedd, Pontardawe a Phort Talbot CDs cerddoriaeth y gallwch eu benthyg. Mae ganddynt gasgliadau clasurol, pop, canu gwlad a jazz.
Gallwch fenthyg hyd at 3 CD ar y tro.
Mae eitemau cerddoriaeth yn costio 75c yr eitem am dair wythnos.
Llyfrau Llafar
Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd gasgliadau o lyfrau llafar ar dâp neu CD.
Gallwch fenthyg hyd at 3 llyfr llafar am hyd at dair wythnos. Rhaid talu 75c yr un am fenthyg llyfr llafar. Os ydych wedi cofrestru fel person â nam ar y golwg, does dim rhaid i chi dalu i'w benthyg.