Gwybodaeth i Athrawon
Caiff athrawon eu hannog i ddod â’u dosbarthiadau i’w llyfrgell leol fel gall y plant ymuno a newid eitemau a fenthycwyd yn rheolaidd. Gellir trefnu ymweliadau dosbarth hefyd i ganolbwyntio ar sgiliau gwybodaeth sylfaenol sy’n galluogi plant i ddarganfod y llyfrgell a chael mynediad i wybodaeth yn gyflym ac yn hwylus. Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i drefnu ymweliad.
Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1
Cyfnod Allweddol 2
Sesiynau eraill
Cyflwyno'r Llyfrgell
Cyflwyno'r gwasanaeth llyfrgelloedd i'r plant, esbonio sut caiff ei ddefnyddio a dangos yr amrywiaeth o ddeunyddiau sydd ar gael. Gellir cyfuno'r sesiwn hon ag Amser Stori a Benthyca Dosbarth.
Amser Stori
Sesiwn fer lle bydd un o'r llyfrgellwyr lleol yn adrodd stori i'r dosbarth. Os bydd angen, gellir ei theilwra i gyd-fynd â thema.
Benthyca Dosbarth
Gall pob dosbarth sy'n ymweld â'r llyfrgell dderbyn 'cerdyn dosbarth'. Yn ystod ymweliad â'u llyfrgell leol, gall pob aelod o'r dosbarth fenthyg un llyfr yr un. Gellir benthyca'r llyfrau hyn am hanner tymor, ac yna gall y dosbarth neu aelod o staff eu dychwelyd. Sylwer y dylid cadw'r llyfrau yn yr ysgol bob amser.
Sgiliau llyfrgell
Yn cynnwys popeth o system ddegol Dewey i'r pethau eraill sydd ar gael mewn llyfrgell. Gadewch i'ch dosbarth gymryd rhan yn her y llyfrgell, neu gyfunwch hyn gyda sesiwn ymchwil ar gyfer prosiectau ysgol. Mae'n cynnwys taith dywys o'r llyfrgell.
Sesiynau Ymchwil
Delfrydol i annog plant i ddefnyddio llyfrau yn hytrach na'r we i ymchwilio i brosiectau gwaith cartref. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei astudio, a byddwn yn trefnu i ddetholiad o lyfrau fod ar gael yn eich llyfrgell leol pan fyddwch yn ymweld.
Hwyl Stori
Bydd y disgyblion yn dysgu am ysgrifennu stori, cynhwysion sylfaenol stori ac yn cyflawni tasgau a fydd yn golygu eu bod yn ysgrifennu eu stori eu hunain.
Barddoniaeth a 'Gobblefunk'
Gan ddefnyddio 'Dirty Beasts' Roald Dahls i ysbrydoli, mae disgyblion yn ysgrifennu darnau o farddoniaeth, a all gynnwys rhywfaint o gobblefunk.
Adeiladu tîm llyfrgell
Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau, gan eu hannog i weithio gyda'i gilydd i gwblhau tasgau.
Mwy o Wybodaeth
Ffoniwch Lyfrgellydd y Plant am fanylion:
Cadw Lle am Ymweliad
I gadw lle am ymweliad, cysylltwch â’ch llyfrgell leol gydag:
- enw eich ysgol
- enw a chyfeiriad cyswllt
- grŵp blwyddyn
- y nifer sydd yn y dosbarth
- unrhyw ofynion arbennig
Sylwer bod rhaid cadw lle 2 wythnos ymlaen llaw.
Os nad ydych chi wedi'ch lleoli ger un o'n canghennau, cysylltwch â'r llyfrgellydd plant i gael gwybod am y gweithgareddau hyn sy'n digwydd yn eich ysgol.