Grant Hanfodion Ysgol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno grant hanfodion Ysgol (Yn flaenorol grant mynediad GAD). Y pwrpas yw i ddarparu cymorth grant i deuluoedd sydd ar incwm isêl i brynu:
- Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
- Dillad chwaraeon, gan gynnwys esgidiau chwaraeon;
- Gwisgoedd ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i: y sgowtiaid, y geidiaid, karate ac ati, chwaraeon, celfyddyd perfformio neu ddawns;
- Offer ee. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
- Offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau ar y cwricwlwm megis dylunio a thechnoleg; a
- Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored, ee. dillad sy'n dal dŵr.
- Gliniaduron neu dabledi
Rydym yn cynghori teuluoedd i gysylltu ag ysgol/lleoliad eu plentyn i drafod benthyca offer cyn prynu.
Mae angen i rieni gadw derbynebau at ddibenion archwilio.
Pwy sy'n gymwys?
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023, mae cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy'n dechrau:
- Dechrau yn y Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 1 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 2 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 3 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 4 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 5 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 6 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £300
- Dechrau ym Mlwyddyn 8 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 9 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 10 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dechrau ym Mlwyddyn 11 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dysgwyr mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion ac sy’n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed
- Plant sy'n derbyn gofal ym mhob blwyddyn ysgol. Ymgeisiwch i'r awdurdod lleol ble fydd eich plentyn yn mynychu os gwelwch yn dda.
Dim ond un hawliad fesul blwyddyn ysgol a ganiateir.
Os mae eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o ganlyniad i gyfnod o drefniadau amddiffyn nid ydynt yn gymwys
Mae plant teuluoedd sy'n derbyn y canlynol yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Elfen gwarant Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm gros blynyddol yn fwy nag £16,190)
- Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
- hyd at 31 Mawrth 2019, Credyd Cynhwysol (1)
- o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol (2) eich cartref yn fwy na £7,400 ( fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o'ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)
(1) Gwnaed hyn fel mesur dros dro, nes caiff meini prawf cymhwysedd newydd eu datblygu.
(2) Diffinnir incwm net fel incwm y cartref ar ôl trethi a didyniadau. Nid yw'n cynnwys incwm o Gredyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill.
Sut i wneud cais?
Gwnewch gais ar-leinGwnewch gais ar-lein neu lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod.
Lawrlwytho
-
Llywodraeth Cymru Y Grant 2022 2023 (DOCX 47 KB)
m.Id: 33456
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Llywodraeth Cymru Y Grant 2022 2023
mSize: 47 KB
mType: docx
m.Url: /media/17892/llywodraeth-cymru-y-grant-2022-2023.docx
Dylid dychwelwch ffurflenni at:
Ysgolion a'r Tim Cymorth I Deuluoedd,
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot,
SA13 1PJ.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw 30 Mehefin 2023
Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau at yr Is-adran Tim Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd ar 01639 763515 neu e-bost: fsm@npt.gov.uk.