Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Prydau Ysgol am Ddim

Taliadau prydau ysgol am ddim ar gyfer pob gwyliau ysgol hyd at ac yn cynnwys Chwefror 2023 - Mwy o wybodaeth

O fis Medi 2022, mi fydd plant Dosbarth Derbyn, am ddim yn awtomatig.

Bydd pob plentyn ym mlynyddoedd 1 a 2 nawr yn derbyn prydau ysgol am ddim o ddydd Llun 7fed o Dachwedd 2022 (ar ôl hanner tymor mis Hydref).

Bydd pob plentyn ym mlynyddoedd 3 a 4 nawr yn derbyn prydau ysgol am ddim o ddydd Llun 17fed o Ebrill 2023

Erbyn 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd gwladol yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim.

Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau a amlinellir isod, dylech gofrestru ar gyfer pryd ysgol am ddim oherwydd efallai y bydd gennych hawl i Cynllun Mynediad DG PF +.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan: https://llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol

Meini Prawf Hawlio Prydau am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynd i'r ysgol yn llawn amser. Maen nhw’n cynnwys:

  • Plant iau sy'n gwneud diwrnodau llawn yn y meithrin
  • Disgyblion ysgol chweched dosbarth

 Mae'n bosib y bydd disgybl yn gallu cael prydau ysgol am ddim os yw ei riant neu warcheidwad yn cael un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm gros blynyddol yn fwy nag £16,190)
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • hyd at 31 Mawrth 2019, Credyd Cynhwysol (1)
  • o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol (2) eich cartref yn fwy na £7,400 ( fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o'ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)


(1) Gwnaed hyn fel mesur dros dro, nes caiff meini prawf cymhwysedd newydd eu datblygu.
(2) Diffinnir incwm net fel incwm y cartref ar ôl trethi a didyniadau. Nid yw'n cynnwys incwm o Gredyd Cynhwysol na budd-daliadau eraill.

Gallai disgyblion sy'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm eu hunain allu cael prydau ysgol am ddim hefyd.
Yn ôl y gyfraith, nid oes unrhyw gategori arall o gymhorthdal neu gyfuniado gredydau treth sy'n gymwys ar gyfer prydiau ysgol am ddim. Yn yr un modd, nid oes unrhyw amgylchiadau eraill sy'n gallu, yn nhermau'r gyfraith, gyfiawnhau darparu pryd am ddim. Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau, Credyd Treth Gwaith a Budd-dal Annalluogrwydd yn gymwys; nid yw derbyn Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith yn eich cymhwyso chwaith.

Mae'n rhaid i blant sy’n dechrau’r ysgol am y tro cyntaf lenwi ffurflen gais am brydau ysgol am ddim, hyd yn oed os oes ganddynt frawd neu chwaer yn yr un ysgol neu mewn ysgol arall sydd eisoes yn eu cael. Ni fydd dyfarniadau’n cael eu gwneud yn awtomatig pan fo brodyr neu chwiorydd yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Sylwir: Ni chaiff ceisiadau am Brydau Ysgol am Ddim eu hol-ddyddio.

Os Ydych yn gorffen derbyn cymorthaliadau neu os ydych yn newid i fath arall o gymorthdal, rhaid i chi roi gwybod i'r Tim Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd ar unwaith. Efallai na fydd eich plentyn yn gymwys mwyach i dderbyn prydiau ysgol am ddim. Os ydych yn parhau i hawlio prydiau am ddim nad oes hawl gennychi'w dderbyn, bydd  gofyn i chi dalu am y prydiau a ddarperir a gellid cymryd camau ychwanegol.

Newidiadau o 1 Ebrill 2019

Bydd unrhyw ddisgybl sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim ar y 1 Ebrill 2019 yn cael ei gymhwysedd wedi ei ddiogelu. Bydd hyn yn berthnasol i’r holl ymgeiswyr tan ddiwedd lledaenu Credyd Cynhwysol (sydd wedi ei amserlennu ar hyn o bryd yn Rhagfyr 2023), boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio. 

Bydd unrhyw ddisgybl sy’n dyfod yn gymwys o dan y meini prawf a ddiwygiwyd yn ystod y cyfnod lledaenu Credyd Cynhwysol (o 1 Ebrill 2019 tan Ragfyr 2023) hefyd yn cadw ei gymhwysedd nes diwedd lledaenu Credyd Cynhwysol, boed eu hamgylchiadau’n newid ai peidio. 

Ar ôl i ledaenu Credyd Cynhwysol gael ei gwblhau, bydd unrhyw blentyn gaiff ei ddiogelu o ran trosglwyddo yn parhau i gael ei ddiogelu o ran trosglwyddo tan ddiwedd cyfnod cyfredol ei addysg e.e. cynradd / uwchradd. 

Sut I wneud cais?

Gwnewch gais ar-lein

Gwnewch gais ar-lein neu lawrlwythwch a llenwch y ffurflen isod.

Llawrlwytho

  • Prydau Ysgol Am Ddim 2022 2023 (DOCX 37 KB)

    m.Id: 33457
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Prydau Ysgol Am Ddim 2022 2023
    mSize: 37 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/17894/prydau-ysgol-am-ddim-2022-23.docx

Dylid dychwelwch ffurflenni at:

Tim Cefnogi Plant a Theuluoedd,
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot,
SA13 1PJ.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn a phrydiau ysgol am ddim, ffoniwch:
Tim Cefnogi Plant a Theuluoedd​ ar 01639 763515 neu e-bost: fsm@npt.gov.uk.

Adnewyddu Prydiau Ysgol Am Ddim

Os ydych eisoes yn hawlio prydiau ysgol am ddim i'ch plentyn ar gyfer pob blwyddyn ysgol newydd, bydd yr hawliad hwn yn dilyn eich plentyn yn awtomatig. Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn symud i ysgol newydd (h.y symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd, dechrau yn y dosbarth derbyn neu drosglwyddo i ysgol o fewn Castell-nedd a Port Talbot), bydd rhaid cyflwyno cais newydd.