Copïau o Dystysgrifau
Sut gallaf gael gafael ar gopi o dystysgrif?
Gwneud cais ar-lein am dystysgrif
Gall cwsmeriaid bellach ddefnyddio proses 'chwilio am dystysgrif a'i chwblhau' ar-lein. Mae hyn yn caniatáu i gwsmeriaid chwilio am y manylion cywir cyn cwblhau'r broses gwneud cais am dystysgrif.
Tystysgrif Geni
Gwneud Cais am Tystysgrif GeniTystysgrif Marwolaeth
Gwneud Cais am Tystysgrif MarwolaethTystysgrif Priodas
Gwneud Cais am Tystysgrif PriodasGellir cyflwyno ceisiadau personol yn y Swyddfa Gofrestru (nid oes angen trefnu apwyntiad)
Yn y Swyddfa Gofrestru, gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais fer.
Ffïoedd
Darperir copi safonol o dystysgrifau geni, marwolaeth a phriodas o fewn 7 niwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais, a'r ffi fydd £11.00 y dystysgrif.
Os bydd angen tystysgrifau ar yr un diwrnod, codir ffi gwasanaeth blaenoriaeth o £35 y dystysgrif.
Gallwch gael copi o dystysgrif genedigaeth, marwolaeth neu briodas a ddigwyddodd yng Nghymru neu Loegr ers 1 Gorffennaf 1837 o Swyddfa Gofrestru'r dosbarth lle y digwyddodd.
Ar gyfer cwsmeriaid tramor, sicrhewch fod y sieciau wedi'u nodi mewn arian sterling ac ar fanc Llundain.
Os yw tystysgrif geni ar gyfer rhywun sydd wedi cael ei fabwysiadu, dylid anfon cais i'r:
Adopted Children’s Register
ONS
Smedley Hydro
Trafalgar Road
Southport
PR8 2HH
Ffôn: 0300 123 1837
Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu.
Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu llungopïo at ddibenion swyddogol.