Cwynion
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot yn ceisio darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni wybod eich barn. Mae gennych chi'r hawl i gwyno os ydych chi'n teimlo nad ydych wedi derbyn gwasanaeth da. Gallwch hefyd gwyno os gwrthodwyd gwasanaeth i chi, neu os ydych chi'n ofalwr.
Sut rydw i'n cwyno?
Gallwch ddechrau drwy siarad â'r aelod o staff yr ydych yn ymwneud ag ef fel arfer, neu gyda'i reolwr. Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn y ffordd hon.
Beth os nad yw hyn yn datrys fy mhroblem?
Os nad ydych yn fodlon ar yr ateb yr ydych yn ei dderbyn, gallwch gwyno.
Allwch chi:-
- Ysgrifennwch at ein Swyddog Cwynion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Canolfan Ddinesig, Castell-nedd SA11 3QZ
-
e-bostiwch y tîm cwynion yn complaints@npt.gov.uk
-
cwblhewch y Ffurflen Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion isod,
-
neu ffoniwch y tîm cwynion 01639 763445
Bydd y Swyddog Cwynion yn eich helpu i ddatrys eich cwyn, ac yn dweud wrthych am y weithdrefn gwyno.
Beth os ydw i'n dal i fod yn anhapus?
Gallwch gysylltu ag Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus a fydd hefyd yn gallu ymdrin â'ch cwyn.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed
Pen-y-bont at Ogwr,
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Ffacs : (01656) 641 199
- Peidiwch â bod ofn rhoi gwybod i ni am eich pryderon. Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar eich hawliau.
- Ar unrhyw adeg, gallwch ofyn i ffrind, perthynas neu eiriolwr i'ch helpu neu i siarad ar eich rhan os y dymunwch. • Gallwn eich helpu i fynegi'ch cwyn yn ysgrifenedig.
- Gallwch gwyno ar ran rhywun arall.
- Os ydych am gwyno am unrhyw wasanaeth arall a gynhelir gan y cyngor, gallwn eich cynghori ar sut i wneud hyn. Gallwch hefyd ofyn yn unrhyw un o swyddfeydd y cyngor.
- Nid eich cwynion yn unig sydd o ddiddordeb i ni. Os oes gennych sylw neu ganmoliaeth am sut rydym yn cynnal ein gwasanaethau, neu sut gallwn eu gwella, rhowch wybod i ni.
Llinell Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Ffôn: 01639 763445
- e-bost : cwynion@cnpt.gov.uk
Hefyd ar gael mewn print bras, braille neu ar dâp.
LLAWRLLWYTHIO
-
Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyflwyno Sylwadau Neu Gwynion (PDF 2.32 MB)
m.Id: 19793
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Gwasanaethau Cymdeithasol - Cyflwyno Sylwadau Neu Gwynion
mSize: 2.32 MB
mType: pdf
m.Url: /media/11990/gwasanaethau-cymdeithasol-cyflwyno-sylwadau-neu-gwynion.pdf -
Comments Compliments & Complaints Form (DOCX 33 KB)
m.Id: 27417
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Comments Compliments & Complaints Form
mSize: 33 KB
mType: docx
m.Url: /media/15238/comments-compliments-complaints-form.docx