At sylw dinasyddion - mae angen eich help ar y cyngor!
12 Mawrth 2020
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn annog preswylwyr i gofrestru ar gyfer ei Banel Dinasyddion newydd. Lansiwyd y panel ym mis Ionawr ac mae mwy na 400 o aelodau erbyn hyn - ond mae angen rhagor arnom!
Enwi Parc Gwledig Margam a’r Orendy’n Fusnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn!
11 Mawrth 2020
Mae staff ym Mharc Gwledig Margam a’r Orendy wedi cael eu llongyfarch ar ôl ennill Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Bae Abertawe 2020.
Rhybudd ar sgam blaendal landlord ffug
10 Mawrth 2020
Mae Adran Safonau Masnach Castell-nedd Port Talbot wedi dod yn ymwybodol o ddarpar Sgam Blaendal Tai sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i dwyllo arian gan gwsmeriaid sy’n chwilio am gyfle i rentu eiddo gan landlordiaid preifat.
Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Castell-nedd Port Talbot 2020
09 Mawrth 2020
Daeth goreuon diwydiant adeiladu Castell-nedd Port Talbot i Westy a Sba’r Towers ddydd Gwener 6 Mawrth ar gyfer gwobrau blynyddol rheoli adeiladu, a gyflwynwyd gan Ross Harries o fyd y teledu, dan nawdd y busnes lleol Seven Oaks Modular.
Diolch i staff am eu hymdrechion yn ystod storm ddiweddaraf y gaeaf
03 Mawrth 2020
Mae staff Cyngor Castell-nedd Port Talbot a weithiodd drwy’r nos yn ystod penwythnos glawog Storm Jorge wedi derbyn diolch am eu hymdrechion, sy’n cael eu cyfri’n gyfrifol am atal gorlifo’r tu mewn i eiddo yn y Fwrdeistref Sirol.
Croesawu cyfraith isafbris alcohol newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot
02 Mawrth 2020
Mae’r gyfraith newydd ddaeth i rym ddydd Llun (Mawrth 2, 2020), sy’n cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru wedi cael croeso gan Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Ddiogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Leanne Jones.
Talu pris mawr ar ôl gadael gwastraff siop gardiau ger maes chwarae
02 Mawrth 2020
Mae menyw fusnes a dyn wnaeth fynd â gwastraff i ffwrdd o’i siop cardiau cyfarch yn Abertawe wedi cael gorchymyn i dalu dirwyon a chostau werth cyfanswm o dros £1,700 ar ôl i’r gwastraff gael ei ddarganfod wedi’i adael ger ardal chwarae plant yng Ngodre’r Graig.