Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Tir Halogedig

Mae llygredd tir yn codi yn bennaf ar ystod eang o waith diwydiannol, cloddio neu weithgareddau gwaredu gwastraff. Mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi etifeddu etifeddiaeth o dir o'r fath yn dyddio yn ôl i pan ddechreuodd dwf diwydiannol yn y 16eg ganrif.Gas Works

Yn dilyn cyflwyno Rhan IIIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ym mis Gorffennaf 2001, mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd i arolygu ei ardal am dir llygredig ac, os oes angen, sicrhau yr adferir safleoedd llygredig hanesyddol yn eu hardal.

Mae'r Tîm Tir Llygredig yn ymgymryd dyletswyddau hyn ar ran y Cyngor ac wedi cyhoeddi Strategaeth Arolygu Tir Llygredig.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd hefyd i gyhoeddi Cofrestr o'r holl gamau gorfodi a gymerwyd o dan Ran 2A.

Gall hyn gael ei gweld yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ. Mae'r gofrestr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa arferol, bydd mynediad at y gofrestr yn cael ei ddarparu am ddim i aelodau'r cyhoedd er y bydd tâl bychan am lungopïo.

Gall trefniadau i weld y gofrestr cael eu gwneud drwy gysylltu â'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol ar Ffôn: 01639 763345 E-bost: landcharges@npt.gov.uk.

Cysylltwch â Ni

  • Tim Tir Llygredig, Uned Newid yn yr Hinsawdd, y Ceiau, Ffordd Brunel, Parc Ynni Baglan, SA11 2GG
  • Ffôn: 01639 685678
  • E-bost: contaminatedland@npt.gov.uk

Mwy o Wybodaeth

  • EA Logo 
  • HPA Logo
  • DEFRA Logo
  • WG Logo