Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Y Diweddaraf 5/10/2017

 Dyma'r newyddion diweddaraf am y pwyntiau a drafodwyd a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 7 Medi 2017.

Un o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod cyhoeddus oedd ddraenio'n gyffredinol. Roedd preswylwyr hefyd wedi tynnu sylw at yr angen am fwy o eglurdeb ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth mewn perthynas â draenio.

Ceir arweiniad defnyddiol ar wefan y cyngor, sy'n nodi hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â draenio, yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer y sefydliadau perthnasol. Dyma grynodeb byr:

Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am y system ddraenio a nhw sy'n cynnal a chadw'r holl garthffosydd dŵr brwnt cyhoeddus yn y fwrdreistref sirol.

Perchennog y tir sydd fel arfer yn gyfrifol am gynnal a chadw draeniau a charthfosydd preifat sy'n eu gwasanaethu nhw, megis pibau sy'n cludo carthffrwd o eiddo i'r brif garthffos gyhoeddus.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am brif afonydd a dyfrgyrsiau.

Mae draenio tir yn faes cymhleth o ran cyfrifoldeb ond, yn fras, y perchennog sy'n gyfrifol am ddraenio ei dir.

Mae gan y cyngor goruchwylio er mwyn sicrhau bod ffosydd yn cael eu cynnal a'u cadw, ond os bydd rhaid gweithredu o ran ffos ar dir preifat, efallai y byddant yn ceisio adennill y gost gan berchennog y tir.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n gyfrifol am ddraenio'r priffyrdd megis cwlferi, gylis y ffordd a phibau ar briffyrdd cyhoeddus. Mae'r cyngor yn edrych ar ôl 30,460 o gylis a 1900 o gwlferi ar draws y fwrdreistref sirol ac mae'n ymgymryd â rhaglen cynnal a chadw arfaethedig blynyddol.

Mewn perthynas â Phant-teg, Ystalyfera, cyhoeddwyd yr amserlen glanhau gylis ar gyfer Heol Cyfyng, Heol yr Eglwys a Heol y Graig yma gyda'r newyddion diweddaraf blaenorol.

Yn ogystal, rydym wedi creu dau fap arall yn dilyn ymholiadau yn y cyfarfod cyhoeddus. Mae un map yn dangos yr holl systemau draenio, cyhoeddus a phreifat, ac mae'r un arall yn dangos lleoliadau'r holl ddraenio a wneir gan y cyngor. Gellir gweld y ddau fap ar ein gwefan tirlithriad Pant-teg arbennig www.npt.gov.uk/pantteg.

Rydym yn parhau i wneud mwy o asesiadau ac arolygon a byddwn ni'n cyhoeddi'r diweddaraf maes o law.