Rheoli Llygredd Diwydiannol
Rheoli Llygredd Diwydiannol
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb dros rheoleiddio rhai gweithgareddau diwydiannol o dan Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r mathau o weithrediadau sy'n gorfod gwneud cais am drwydded. Mae'r rhan fwyaf o drwyddedau yn "Rhan B" yn caniatáu ac yn rheoleiddio allyriadau i aer yn unig. Ond mae rhai trwyddedau yn "A2" ac yn rheoleiddio llygredd dŵr, halogiad tir, defnydd o ynni ac atal damweiniau, er bod hyn yn tueddu i fod dim ond am ychydig o safleoedd diwydiannol mawr.
Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r diwydiannau mwy neu fwy cymhleth, a elwir yn gosodiad "A1".
A oes angen trwydded arnaf?
- Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded?
- Pa amodau fydd yn y drwydded?
- Am ba hyd y mae'r drwydded yn para?
- Pa wybodaeth arall sydd ar gael?
- Pwy alla i gysylltu â nhw am rhagor o wybodaeth?
- A oes cofrestr o ddeiliaid trwyddedau?
A oes angen trwydded arnaf?
Os rhagnodir eich proses o fewn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Os yw'ch proses yn "Rhan B" neu "A2" yna mae'n rhaid i chi wneud cais i'r Cyngor hwn. Os yw'n weithgaredd "A1" yna mae'n rhaid i chi wneud cais i Adnoddau Naturiol Cymru.
Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded?
Argymhellir i chi gysylltu â ni cyn gwneud cais am drwydded gan y byddwn yn gallu eich tywys yn yr hyn a all fod yn weithdrefn gymhleth.
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais isod a'u postio atom ni:
Ffurflenni Rhan B
-
Cais am ganiatâd ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau (DOC 159 KB)
m.Id: 14092
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cais am ganiatâd ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau
mSize: 159 KB
mType: doc
m.Url: /media/7540/permit-application-for-most-activities.doc -
Cais am ganiatâd ar gyfer ail-chwistrellu cerbydau (DOC 156 KB)
m.Id: 14094
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cais am ganiatâd ar gyfer ail-chwistrellu cerbydau
mSize: 156 KB
mType: doc
m.Url: /media/7542/permit-application-for-vehicle-resprayers.doc -
Cais am ganiatâd ar gyfer gorsafoedd betrol (DOC 127 KB)
m.Id: 14093
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cais am ganiatâd ar gyfer gorsafoedd betrol
mSize: 127 KB
mType: doc
m.Url: /media/7541/permit-application-for-petrol-stations.doc -
Cais trwyddedau am sychlanhau (DOC 125 KB)
m.Id: 14091
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Cais trwyddedau am sychlanhau
mSize: 125 KB
mType: doc
m.Url: /media/7539/permit-application-dry-cleaners.doc -
Amrywiad i drwydded (DOC 157 KB)
m.Id: 14089
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Amrywiad i drwydded
mSize: 157 KB
mType: doc
m.Url: /media/7537/lappc_part_b_variation_form.doc -
Trosglwyddo trwydded (DOC 154 KB)
m.Id: 14088
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: Trosglwyddo trwydded
mSize: 154 KB
mType: doc
m.Url: /media/7536/lappc_part_b_transfer_form.doc -
ildio trwydded (DOC 59 KB)
m.Id: 14090
m.ContentType.Alias: nptDocument
mTitle: ildio trwydded
mSize: 59 KB
mType: doc
m.Url: /media/7538/part-b-surrender-form.doc
Os derbynnir eich cais fe'i gosodir ar gofrestr gyhoeddus.
Gall y cais gynnwys un neu fwy o gamau ymgynghori cyhoeddus a'n nod yw gwneud penderfyniad ar y cais mewn 3 i 4 mis yn dibynnu ar y math o gais.
Os gwrthodir eich cais neu os ydych chi'n anghytuno ag amodau'r drwydded, yna mae gennych hawl i apelio i Lywodraeth Cymru.
Pa amodau fydd yn y drwydded?
Bydd amodau'r drwydded yn cael eu drafftio yn seiliedig ar ganllawiau'r llywodraeth a geir yn "Nodiadau Canllaw’r Broses" ac o ystyried amgylchiadau penodol eich gweithgaredd. Yn y rhan fwyaf o achosion, darperir trwyddedau drafft i weithredwyr am sylwadau fel rhan o'r broses ymgeisio. Ond ni cheir ymgynghori'n aml â gorsafoedd petrol a gweithgareddau bach eraill gyda chaniatâd "safonol" syml yn y modd hwn.
Am ba hyd y mae'r drwydded yn para?
Unwaith y bydd eich trwydded wedi'i rhoi, bydd yn parhau i fod mewn grym hyd nes hildio gan y gweithredwr neu ei ddiddymu gan y Cyngor. Mae yna sawl rheswm pam y gallai cyngor ddiddymu trwydded. Mae'r rhain yn cynnwys: peidio â thalu ffioedd cynhaliaeth flynyddol; nad yw deiliad y drwydded bellach yn weithredwr y gweithgaredd; ni weithredwyd y gweithgaredd am amser hir ac ati. Mae'n bosibl y bydd caniatâd yn ddarostyngedig i hysbysiad atal os oes risg o lygredd difrifol i'r amgylchedd.
Pa wybodaeth arall sydd ar gael?
Mae nifer o adnoddau ar-lein defnyddiol ar gael ar wefan Defra.
- Rhan B "Nodiadau Canllaw’r Broses"
- Rhan A2 "Nodiadau Canllawiau’r Sector”
- Llawlyfr Canllawiau Cyffredinol ar gyfer Trwyddedu Amgylcheddol
Pwy alla i gysylltu â nhw am rhagor o wybodaeth?
Cysylltwch ag aelod o'n Hadran Iechyd yr Amgylchedd os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch.
Ffôn: (01639) 686595
A oes cofrestr o ddeiliaid trwyddedau?
Mae rhestr o ddeiliaid trwyddedau, safleoedd a chrynodeb o'r hyn sydd i'w gweld ar y gofrestr gyhoeddus i'w gweld isod.