Bspoked Enterprises
Gwasanaeth cyflogaeth a hyfforddiant i oedolion ag anableddau amrywiol yw Bspoked Enterprises. Mae Bspoked yn rhoi ffocws ar ddiddordebau pob unigolyn a'r hyn yr hoffai ei elwa o'r gwasanaeth. Mae gan bawb gyfle i gymryd rhan wrth ddysgu am y broses gyfan, o ddylunio i greu a gwerthu cynnyrch. Mae gan unigolion gyfle hefyd i ddysgu a datblygu amrywiaeth eang o sgiliau trwy bum gweithdy'r gwasanaeth - gwaith coed, crefftau, gwydr, arlwyo a mecaneg beiciau.
I weld detholiad y cynhyrchion a wnaed yn BSPOKED Enterprises, ewch i'w tudalen Facebook.
Lleoliadau
Bspoked Enterprises, Heol y Fynachlog, Mynachlog Nedd, Castell-nedd SA10 7DR.
Meini prawf cymhwysedd
Nid oes angen i chi gael asesiad ffurfiol neu gynllun gofal a chefnogaeth i gael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Annibyniaeth Gymunedol. Gellir gwneud atgyfeiriadau trwy'r canlynol:
- Porth CNPT
- Timau gwaith cymdeithasol
- Timau atal digartrefedd
- Tîm Argyfyngau Iechyd Meddwl
- Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
- Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
Talu am wasanaethau
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
Manylion Cyswllt
I gael mwy o wybodaeth, Gwasanaeth amlddisgyblaeth yw Tîm Pwynt Cyswllt Unigol Oedolion a Phlant Castell-nedd Port Talbot (PCU)
Oriau agor: 8.30yb - 5yp, o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30yb – 4.30yp ar ddydd Gwener