Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Polisiau

Polisi Parcio

Egwyddorion a Pholisi ar gyfer Gwasanaethau Parcio Castell-nedd Port Talbot

Mae'r egwyddorion canlynol yn sail i bolisïau parcio'r cyngor ar hyn o bryd: -

  • Dylai polisi parcio gefnogi amcanion datblygu cynaliadwy a gwelliant amgylcheddol y cyngor drwy wella diogelwch ffyrdd, a lleihau traffig a thagfeydd ac annog y defnydd o feysydd parcio oddi ar y stryd yng nghanol trefi.
  • Dylai polisi parcio danategu bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi drwy reoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd yn briodol.
  • Dylid defnyddio dulliau rheoli parcio yn ddetholus i fynd i'r afael â gwrthdaro penodol, ond ni ddylid eu defnyddio'n ddiangen.
  • Dylai'r cyfrif parcio gynnwys yr holl gostau ac incwm perthnasol a bod yn dryloyw.
  • Dylai polisïau parcio ystyried materion cydraddoldeb ac anabledd.

Yn dilyn yr egwyddorion hyn, cynigir y datganiadau polisi parcio canlynol i'w mabwysiadu hefyd: -

  • fewn canol trefi, rhoddir blaenoriaeth i barcio cyfnod byr cyfleus i ddiwallu angen lleol i gefnogi'r economi leol.
  • Bydd mannau parcio am gyfnod hir yn defnyddio mannau agored llai cyfleus neu ar gyrion canolfannau.
  • Diogelir gallu preswylwyr lleol i barcio'n agos at eu tai, yn enwedig drwy reoli parcio ar y stryd yng nghanol trefi ac yn agos iddynt, e.e. drwy gynlluniau parcio i breswylwyr a pharthau parcio wedi'u rheoli.
  • Defnyddir taliadau parcio yng nghanol trefi ac mewn lleoliadau eraill lle mae galw mawr er mwyn rheoli parcio.
  • Trefnir darpariaeth addas ar gyfer pobl anabl.

Polisi Parcio Preswylwyr a Trwyddedau

I gael trwydded:

  • Rhaid i chi fod yn berchen ar gerbyd ac yn gallu gyrru.
  • Rhaid i chi ddangos dogfen cofrestru cerbyd ddilys (V5) neu gytundeb symudedd dilys ynghyd â thrwydded yrru gyfredol. Nid yw tystysgrif MOT na dogfennau yswiriant yn dderbyniol fel prawf perchnogaeth.
  • Rhaid i'r ddwy ddogfen hon gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad cywir, a rhaid i'r rheiny gyfateb i'r enw a'r cyfeiriad ar y ffurflen gais.
  • Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, peidiwch ag anfon eich V5 a'ch trwydded yrru wreiddiol; copïau yn unig.
  • Mae trwydded ond yn ddilys ar gyfer y cerbyd y cyflwynwyd hi ar ei chyfer ac ni ellir ei defnyddio ar unrhyw gerbyd arall.
  • Rhaid dychwelyd trwydded pan fydd yn cael ei hadnewyddu neu wrth newid cerbyd.
  • Os collir neu ddinistrir trwydded, neu os na thynnir hi o'r cerbyd wrth ei gwerthu, codir tâl o £5 i gyflwyno trwydded arall.
  • Cyflwynir 2 drwydded yn unig pan na fydd parcio amgen oddi ar y stryd ar gael h.y. garej, dreif etc.
  • Codir tâl gweinyddol o £20 am gyflwyno pob trwydded barcio.
  • Cyflwynir 2 drwydded dros dro ar y mwyaf wrth aros i ddogfennau cofrestru'r cerbyd gael eu dychwelyd.
  • Rhoddir trwyddedau ar gyfer cerbydau masnachol ond ni ddyylent bwyso mwy na 3.5 tunnell.
  • Cyflwynir trwyddedau ar gyfer carafanetau a chartrefi symudol, ond ni ddylent fod yn fwy na 3.5 tunnell na'n hirach na 4.38 metr.
  • Cyflwynir trwydded ymwelydd teuluol yn unig pan nad oes trwydded breswylydd ddilys wedi'i chyflwyno i'r eiddo, a rhaid i feddyg teulu ei llofnodi.
  • Cyflwynir trwyddedau ymwelwyr gwyliau am gyfnod o bythefnos ar y mwyaf.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch y gwasanaethau parcio ar 01639 763939 neu e-bostiwch parking@npt.gov.uk

Adroddiadau Blynyddol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi paratoi'r arweiniad polisi canlynol o ran Gorfodi Parcio Sifil.

Mae'r cyngor yn aelod o'r Cydbwyllgor Dyfarnu Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain (PATROL).

Mae arweiniad hefyd ar gael o ran parcio i bobl anabl yn y canolfannau dinesig yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.

Lawrlwytho dogfennau

  • Polisi Arweiniad Gorfodi Parcio Sifil (PDF 366 KB)

    m.Id: 10213
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Polisi Arweiniad Gorfodi Parcio Sifil
    mSize: 366 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/4092/parkguidancecancellationpolicy.pdf

  • Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Parcio 2019-2020 (PDF 338 KB)

    m.Id: 24301
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Parcio 2019-2020
    mSize: 338 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/13764/parking-services-annual-report-2019-2020-translation.pdf

  • Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Parcio 2018-2019 (PDF 376 KB)

    m.Id: 20307
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Parcio 2018-2019
    mSize: 376 KB
    mType: pdf
    m.Url: /media/12233/parking-services-annual-report-2018-2019-translation.pdf

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete