Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Diweddariad12/1/18

Bydd trefniadau cludiant dros dro o'r cartref i'r ysgol mewn lle oherwydd cau Heol Cyfyng, Ystalyfera, dros dro o ddydd Llun 15 Ionawr 2018.

Bydd y ffordd ar gau i'r cyhoedd am oddeutu 5 niwrnod er mwyn gwneud y gwaith symud coed sydd uwchben y wal gynnal mewn modd diogel. Mae cau'r ffordd yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a diogelwch y tîm peirianneg sy'n gwneud y gwaith.

Mae dau fws mawr sy'n gwasanaethu Ysgol Gymunedol Cwmtawe (llwybrau 902 a 905) yn defnyddio Heol Cyfyng ar hyn o bryd ac mae bws ysgol mawr sy'n gwasanaethu Ysgol Gynradd Godre'r-Graig (llwybr 950) hefyd yn defnyddio Heol Cyfyng.

Ni fydd y bysus hyn yn gallu casglu teithwyr ar hyd Heol Commercial, Heol y Wern a Heol Cyfyng yn ystod y cyfnod lle bydd y ffordd ar gau dros dro a bydd yn rhaid iddynt aros ar Heol Ynysydarren ar y B4599.

Trefniadau Teithio Amgen

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at rieni'r disgyblion y mae hyn yn effeithio arnynt gyda manylion y trefniadau eraill. Sef:

Ar gyfer y bws sy'n gwasanaethu Ysgol Gynradd Godre'r-Graig

Mae'r cyngor wedi trefnu bod dau fws mini yn casglu'r disgyblion o'r ardal yr effeithir arni ac yn mynd â nhw i'r safle bws yng Ngwesty'r Swan i gwrdd â'r bws mawr yn y bore ac i fynd â nhw yn ôl yn y prynhawn.

Ar gyfer y bysus sy'n gwasanaethu Ysgol Gymunedol Cwmtawe

Mae'r cyngor wedi rhoi gwybod i'r disgyblion bod angen iddynt ganfod eu ffyrdd eu hunain o gyrraedd Gwesty'r Swan, neu'r danffordd i leoliad y tu allan i'r cae rygbi ar Heol Ynysydarren a'r gyffordd â Ffordd Glandŵr neu'r trydydd lleoliad ar gyffordd Heol Hodgson a'r A4067.

Mae'r cyngor hefyd wedi trefnu gyda'r ysgolion eu bod yn anfon negeseuon testun ychwanegol i atgoffa'r rhieni.

Trefniadau Cludiant Cyhoeddus Dros Dro

Bydd gwasanaeth bws presennol X50/51 First Cymru yn aros ar Heol Ynysydarren a bydd ond yn gwasanaethu ardal Farteg, Ystalyfera, yn ystod y cyfnod pan fydd y ffordd ar gau dros dro.

Mae South Wales Transport wedi darparu amserlen arall ar gyfer ei wasanaeth 121 yn ystod cyfnod cau'r ffordd dros dro ac ni fydd yn gwasanaethu Cilmaengwyn yn ystod y cyfnod pan fydd y gwaith yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae'n cynghori mai dim ond dau berson oedd yn defnyddio'r gwasanaeth o'r ardal ond maent nawr wedi "symud i ffwrdd", felly ni ddylai fod unrhyw effaith negyddol.

Cyfarfod cyhoeddus ac apeliadau

Mae trefniadau'n  cael eu gwneud ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus ynghylch mater y tirlithriadau a fydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ar 29 Ionawr 2018, lle bydd yr wybodaeth ddaearegol ddiweddaraf sy'n ymwneud â'r ardal yn cael ei chyflwyno'n gyhoeddus a bydd cwestiynau'n cael eu derbyn.

Pennwyd dyddiad 29 Ionawr er mwyn sicrhau bod gan yr awdurdod ddata cynhwysfawr gan ei ymgynghorwyr o ran amodau tir lleol.

Bydd apeliadau pedwar o bobl sy'n herio penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i'w symud o'u cartrefi ar Heol Cyfyng yn dilyn tirlithriadau yn parhau ym mis Mawrth eleni.

Apeliodd preswylwyr/perchnogion tri thŷ ar Heol Cyfyng at Dribiwnlys Eiddo Preswyl a gynhaliwyd mewn gwesty yng Nghaerdydd ddydd Llun, 18 Rhagfyr, 2017, yn erbyn penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot - yn gweithredu ar gyngor gan ddaearegwyr arbenigol - i osod Gorchmynion Gwahardd Brys arnynt ym mis Awst 2017.