Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Y Diweddaraf 26/1/18

Mae arbenigwyr daearegol sy'n gweithio i Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llunio'r asesiad mwyaf cynhwysfawr erioed o'r risg i bobl ac eiddo yn ardal tirlithriad Pant-teg yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe, sydd wedi profi ansefydlogrwydd tir ers o leiaf 1897.

Ar ddiwedd 2017, cynhaliwyd arolwg drôn arbenigol o'r awyr o Bant-teg.

Roedd hyn yn cynnwys yr hyn a elwir yn 'LiDAR' (Light Detection and Ranging) - sef dull sy'n defnyddio laser i fesur pellterau i'r wyneb.

Defnyddiwyd y mesuriadau hyn i ddatblygu map eithriadol o gywir o Bant-teg (a elwir yn gwmwl pwyntiau) ac maent wedi rhoi'r wybodaeth a oedd yn angenrheidiol, megis onglau goleddfau a gweddluniau, er mwyn llunio cynllun drafft sy'n dangos y perygl i fywyd ac eiddo o beryglon tirlithriadau a nodwyd.

Mae gwybodaeth LiDAR yn llawer mwy cywir na Google Earth, er enghraifft, ac mae wedi darparu data sydd â chywirdeb ar raddfa milimetrau.

Defnyddiwyd y mesuriadau LiDAR hefyd i greu model gweledol 3D o sut mae'r goleddfau, yr eiddo a'r isadeiledd yn cysylltu â'i gilydd, ac mae arolwg ychwanegol o'r awyr wedi galluogi cysylltu delweddau â chyfeirbwyntiau LiDAR/y cwmwl pwyntiau (a elwir yn ffotogrametreg).

Mae'n ddefnyddiol iawn oherwydd ei fod yn dangos y dopograffeg wrth ddefnyddio ymadwaith gweledol yn hytrach na data haniaethol LiDAR.

Mae categorïau risg yn amrywio o Uchel Iawn i Isel Iawn ac mae'r asesiad yn cynnwys gwahanol fathau o beryglon, o dirlithriadau mawr i gwympiadau malurion, cerrig a cherrig mawrion.

Mae arbenigwyr ESP yn dweud mai ardal Pant-teg yw'r ardal â'r perygl a'r risg fwyaf o dirlithriadau

Mae ESP wedi nodi tirlithriad Pant-teg yn un "actif iawn", gan ddweud bod mwy o ansefydlogrwydd yn debygol iawn o fod yn broblem reolaidd yn y dyfodol. Caiff yr asesiad risg manwl ei adolygu ar y cyd unwaith y caiff ei gwblhau, yn unol â'r hyn sy'n arferol.

Ers y tirlithriad diweddaraf ym mis Chwefror 2017, mae'r gost i'r cyngor wedi cyrraedd £440,000 a disgwylir i'r gwariant gyrraedd mwy na £700,000 erbyn mis Mawrth eleni.

Mae'r tir yn yr ardal dan feddiannaeth breifat yn bennaf.

Mae gwaith helaeth a gwblhawyd ac sy'n parhau yn ardal Pant-teg yn cynnwys:

  • Dadansoddiad goleddf Heol Cyfyng (cyfredol)
  • Map risg/peryglon diweddaredig (cwblhawyd)
  • Adroddiad arolwg coed (cwblhawyd)
  • Gwaith torri coed (disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau ar ddiwedd mis Chwefror 2018)
  • Archwilio cwareli yng Nghwar Pen-y-Graig (cwblhawyd un ym mis Awst 2017 a disgwylir un arall ym mis Ionawr 2018) ac yng Nghwar Pen-y-Graig arw (cwblhawyd un ar 20 Tachwedd 2017 a disgwylir yr un nesaf ym mis Mawrth 2018)
  • Draenio – (1) System Godre'r Graig (cwblhawyd clirio llystyfiant, cwblhawyd yr arolwg, cwblhawyd 100% o'r gwaith adnewyddu) (2) system Heol yr Eglwys (cwblhawyd clirio llystyfiant, cwblhawyd yr arolwg, cwblhawyd 80% o'r gwaith adnewyddu, (3) system Pant-teg (cwblhawyd 90% o'r gwaith i glirio llystyfiant, cwblhawyd 90% o'r arolwg, gwaith adnewyddu'n parhau).
  • Wal gynnal 2 (cwblhawyd adeiladu'r wal)
  • Wal gynnal 3 (dechreuwyd gwaith cryfhau ar 22/1/18)
  • Amddiffyn y gwelliannau bwnd gyferbyn â'r capel (gwaith i ddechrau ar 26/2/218).

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus nos Lun, 29 Ionawr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera (bydd drysau'n agor am 6pm, a'r cyfarfod yn dechrau am 7pm). Bydd model 3D o'r awyr sy'n dangos ardal y tirlithriad, gwybodaeth fanwl arall a map diweddaredig o risgiau/peryglon yn yr ardal ar gael a bydd swyddogion ac aelodau'r cyngor ar gael i ateb cwestiynau gan breswylwyr.

Meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Rob Jones, "Mae Earth Science Partnership bellach yn darparu'r wybodaeth fwyaf manwl y mae'n bosib ei chynnig i breswylwyr Pant-teg ynghylch peryglon tirlithriadau, sydd wedi bod yn broblem fawr yn yr ardal hon ers mor bell yn ôl â'r 1890au.

"Rydym yn sicrhau y bydd yr wybodaeth ar gael ar ein gwefan fel y gall pobl ystyried yr wybodaeth cyn y cyfarfod cyhoeddus yn Ystalyfera nos Lun, pan fydd prif swyddogion y cyngor yn ogystal ag aelodau wrth law i ateb cwestiynau a thrafod pryderon anochel.

"Rydym wedi defnyddio adnoddau enfawr a swm mawr o arian cyhoeddus i gomisiynu arbenigwyr daearegol mawr eu parch. Caiff eu gwaith manwl nhw ei adolygu gan gymheiriaid hefyd, a bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i breswylwyr ardal Pant-teg o'r tir o'u cwmpas ac y maent yn byw arno.