Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cofrestru I Bleidleisio - Cwestiynau Cyffredin

Sut rydw i'n ymuno â'r neu'n eithrio o'r gofrestr agored (olygedig)?

Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd y gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. Gallwch hefyd newid eich opsiynau eithrio unrhyw bryd drwy wneud cais i staff cofrestru etholiadol lleol gyda'ch enw llawn, eich cyfeiriad gan nodi a hoffech gael eich cynnwys ar neu eich eithrio o'r gofrestr olygedig. Gallwch wneud hyn yn ysgrifenedig neu drwy ffonio 01639 763330.  Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau unrhyw newid.

Beth yw'r gofrestr agored (olygedig)?

Gan ddefnyddio gwybodaeth a dderbynnir gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru'n cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir hefyd y gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir yn y gyfraith hefyd, megis canfod troseddau (e.e. twyll), cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor a cheisiadau gwirio credyd.

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni y gofynnir i chi eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion o'r gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Sut rydw i'n dod o hyd i'm rhif Yswiriant Gwladol?

Cyfeirnod a ddefnyddir gan y llywodraeth yw rhif Yswiriant Gwladol. Y lle hawsaf i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol yw ar waith papur swyddogol, megis eich cerdyn Yswiriant Gwladol neu lythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Efallai y gall myfyrwyr ddod o hyd iddo yn eu manylion cofrestru prifysgol neu yn eu cais am fenthyciad myfyrwyr. Os na allwch ddod o hyd iddo o hyd, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn www.gov.uk/lost-national-insurance-number.

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch ffonio llinell gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol ar 0300 200 3502.

Am ymholiadau Cymraeg, rhif ffôn y llinell gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol yw 0300 200 1900.

Sylwer, ni fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi'n dweud eich rhif Yswiriant Gwladol wrthych dros y ffôn, byddant yn ei bostio atoch.

Fel arall gallwch ysgrifennu at:

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

Swyddfa Cyfraniadau a Chofrestriadau Cyflogwyr Yswiriant Gwladol

Benton Park View,

Newcastle upon Tyne

NE98 1ZZ

 

Mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y DU rif Yswiriant Gwladol. Os nad oes un gennych, gofynnir pam na allwch ei ddarparu. Gall staff cofrestru etholiadol lleol gysylltu â chi i ofyn am brawf hunaniaeth.